Presenoldeb
Mae Tîm Iechyd a Lles PAVO yn hwyluso'r rhwydwaith hwn, gyda mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, sefydliadau trydydd sector a Grŵp Llywio Dementia Powys BIAP.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad o fyw gyda dementia. Fel arfer mae cymysgedd o wasanaethau statudol a sefydliadau gwirfoddol, gyda chynrychiolaeth dda o blith y rhai sy'n byw gyda dementia neu'n gofalu am rywun.
Dyddiadau
Cynhelir Rhwydwaith Dementia Powys bob 6 mis, fel arfer ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Pwrpas y rhwydwaith yw galluogi llais y rhai sy’n byw gyda dementia gael eu clywed. Maen nhw a’u gofalwyr yn gallu siarad am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu ym Mhowys. Mae'r rhwydweithiau hefyd yn galluogi sefydliadau i rannu arfer dda a rhoi gwybod i bobl am eu gwasanaethau.
Mae'r Rhwydwaith Dementia nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer Haf '24
Bydd y rhai sydd ar y rhestr e-bost yn cael gwybod am y dyddiad aildrefnu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â PAVO ar info@pavo.org.uk
Dogfennau defnyddiol ychwanegol
Dolenni Defnyddiol
- Eiriolaeth Dementia Age Cymru - https://www.ageuk.org.uk/cymru/our-work/advocacy/dementia-advocacy/
- DEEP rhwydwaith y DU o Leisiau Dementia- http://dementiavoices.org.uk/
- Materion Dementia ym Mhowys- http://dementiamatterspowys.org.uk/
- Cymdeithas Alzheimers- https://www.alzheimers.org.uk/info/20028/contact_us/832/wales
- Cynllun Gweithredu Dementia i Gymru 2018-2022 https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/dementia-action-plan-for-wales.pdf