Mae PAVO yn croesawu adborth am ei wasanaethau. Gall hyn fod yn sylw cyffredinol, yn ganmoliaeth am y gwasanaeth neu'r gweithiwr neu awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella pethau. Defnyddiwch ein Ffurflen Cysylltu â Ni isod i anfon eich adborth atom.
Mae PAVO am ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n haelodau a'r trydydd sector ym Mhowys ac rydym yn ymrwymedig i wella'n barhaus.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym pryd mae hyn yn digwydd fel y gallwn ddelio'n fuan â'r broblem. Os yw'r mater sy'n peri pryder i chi yn rhywbeth, y teimlwch, sy angen dull mwy ffurfiol nag anfon neges atom, rydym yn eich annog i ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno isod.
Mae adborth yn ein helpu ni i wella ansawdd ein gwaith!
Os ydych yn anhapus gydag unrhyw un o’n gwasanaethau, mae PAVO yn ymrwymo i ddelio gyda’r mater yn gyflym ac mewn ffordd effeithiol: