Sioned Jones Pritchard

Mae Sioned yn gwasanaethu fel Cysylltydd Cymunedol ym Machynlleth a Bro Ddyfi, gan gynorthwyo unigolion i gael mynediad at wasanaethau, cefnogaeth a gwybodaeth i wella eu hiechyd a’u lles. Yn ogystal, mae’n cydweithio â’r Rhwydwaith Bro i hwyluso cyfleoedd rhwydweithio, rhannu arferion gorau, a rhoi adborth i’r Fforwm Gwerth Cymdeithasol.