Chwilio am wybodaeth
Swyddogaeth
Mae’r Bartneriaeth Heneiddio’n Dda yn gyfrifol am fwrw ymlaen â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau a thrawsnewid gwasanaethau i bobl hŷn ym Mhowys.
Llesiant
Byddwn yn:
- Cefnogi pobl hŷn i fod mor egnïol â phosib trwy wirfoddoli, ymarfer corfforol a meddyliol.
- Annog pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a gweithredu er mwyn lleihau nifer a dilyniant cyflyrau sy’n byrhau bywyd megis dementia.
- Cefnogi amrediad o opsiynau llety a mynediad atynt ar gyfer pobl wrth iddynt heneiddio.
Cymorth Cynnar a Chefnogaeth
- Byddwn yn defnyddio technoleg er mwyn i bobl hŷn ofalu am eu hunain ac aros yn annibynnol, ac i annog gwell cynhwysiant cymdeithasol.
- Ar gyfer gofalwyr, byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau i fodloni anghenion cyfannol y teulu a chynnig gofal seibiant digonol.
- Byddwn yn helpu pobl i oresgyn unigrwydd ac unigedd cymdeithasol a bod yn aelod egnïol o’r gymuned
Mynd i’r afael â’r ‘4 Clefyd Mawr’
- Byddwn yn datblygu gwasanaethau effeithiol i drin a chefnogi pobl sy’n dioddef o bedwar prif achos afiechyd a marwolaeth cynnar ym Mhowys:
- Canser
- Clefydau cylchredol
- Clefydau anadlol
- Problemau iechyd meddwl
- Hefyd byddwn yn datblygu cymorth i leihau nifer ac effaith clefydau yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gofal Cyd-gysylltiedig
- Byddwn yn cefnogi timau iechyd a gofal i weithio’n dda gyda phobl hŷn i gael pethau’n iawn y tro cyntaf, ac i atal anghenion rhag gwaethygu.
- Byddwn yn adolygu gwasanaethau iechyd a gofal presennol ac yn buddsoddi yn yr amgylchfyd iechyd a gofal sy’n diwallu anghenion y dyfodol - sy’n darparu dewis, hygyrchedd a gwasanaethau cyd-gysylltiedig.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu trigolion.
Aelodaeth
- Cyngor Sir Powys
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Tîm Iechyd Meddwl Powys
- PAVO
Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector
Sharon Healey (Pennaeth Iechyd, Lles a Phartneriaethau PAVO))
Amserlen Cyfarfodydd: bob dau fis.