Swyddogaeth
Rôl y PSB yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Powys trwy gydweithio’n well ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus.
Dyletswydd y PSB yw:
- Asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ym Mhowys – Asesiad Llesiant Powys
- Gosod amcanion sy’n cyfrannu at y nodau llesiant - Cynllun Llesiant Powys
Mae’n rhaid i’r PSB ymgynghori’n helaeth. Hefyd mae’n rhaid i’r PSB gynnal adolygiad blynyddol o Gynllun Llesiant Powys er wyn dangos cynnydd.
Aelodaeth
Mae aelodaeth statudol PSB Powys fel a ganlyn:
- Cyngor Sir Powys
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae PSB Powys yn gorfod gwahodd y sefydliadau canlynol i gyfrannu:
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
- Heddlu Dyfed-Powys
- Cynrychiolydd Trydydd Sector: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
- Cynrychiolydd y Gwasanaeth Prawf ym Mhowys: Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Cynrychiolydd ar ran Gweinidogion Cymru: Pennaeth Ynni, Dŵr a Bwyd
- Cytunwyd hefyd i wahodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyfrannu at waith PSB Powys.
Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:
Clair Swales (Prif Weithredwr PAVO) a Martin Nosworthy (Cadeirydd PAVO)
Amserlen Cyfarfod: 4 gwaith y flwyddyn.
Adroddiadau Blynyddol PSB Powys
Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Powys ym mis Mehefin 2023 ac mae’n cynnwys 3 amcan lleol a 3 cham llesiant i gyflawni’r amcanion hynny, gan nodi sut y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eisiau i Bowys edrych yn y dyfodol.
Mae Cynllun Llesiant Powys wedi’i ddatblygu i ddarparu gweledigaeth hirdymor o lesiant ym Mhowys.