Ymatebion cymunedol i’r Argyfwng Costau Byw

 

Annwyl gyfaill,

Diolch am eich cefnogaeth yn gynharach eleni pan roeddem ni’n cynnal ein hymchwil i ymatebion cymunedol i’r Argyfwng Costau Byw. Fe wnaeth eich cymorth ein galluogi i gyrraedd bron i 150 o grwpiau a mudiadau cymunedol ledled Cymru. Mae’r ymchwil bellach wedi cael ei gyhoeddi ac mae’n dangos am y tro cyntaf sut mae’r argyfwng yn effeithio ar grwpiau cymunedol.

Drwy gynnal arolwg o grwpiau cymunedol ledled Cymru, gwelsom y canlynol:

  • Roedd newid mawr wedi bod yn y ffordd mae bron pob un ohonynt (84%) yn gweithio yn sgil yr argyfwng
  • Roedd 50% wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwaith ar yr un pryd â gostyngiad yn eu hincwm
  • Roedd dros hanner bellach yn gwneud pethau a oedd yn arfer cael eu rhedeg gan lywodraeth leol ac wedi sefydlu gwasanaethau newydd yn benodol i ddelio â’r Argyfwng Costau Byw
  • Roedd canran syfrdanol o 80% yn dangos arwyddion o straen gwirioneddol o ran y pwysau ar eu staff a’u gwirfoddolwyr.

Mae grwpiau cymunedol fel y rhain wedi dod yn rhan hanfodol o fywydau llawer o bobl. Nifer fach o staff sydd gan lawer ohonynt ac mae nifer uwch o wirfoddolwyr. Mae llawer o’r mudiadau hyn mewn sefyllfa fregus eu hunain; mae’r rhan fwyaf yn codi rhywfaint o arian dros eu hunain – ond mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd pan fydd cymunedau lleol yn ei chael hi’n anodd – ac mae’r rhan fwyaf o gyllid y llywodraeth yn fregus ac ond ar gael yn y tymor byr.

Mae risg wirioneddol y bydd sefydliadau’n mynd i’r wal ar yr union adeg pan mae pobl eu hangen fwyaf.

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion allweddol sy’n ymwneud â chyllido grwpiau cymunedol, cymorth i wneud eu hadeiladau’n fwy cynaliadwy a chyflwyno system fudd-daliadau i Gymru sy’n helpu pobl i hawlio’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth hon i lobïo gwleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud newid tymor hir er budd grwpiau a sefydliadau cymunedol a byddwn yn mynd i ddigwyddiad yn y Senedd ar 18 Mehefin i dynnu sylw at y canfyddiadau.

 Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi drafod y gwaith ymhellach, cysylltwch â’n Cynghorydd Polisi ac Ymchwil, Eleri Williams ar eleri.williams@bct.wales.

Cofion gorau, Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau