Gweithdy gyda Darparwyr Bwyd Brys

Rydym eisiau dyfodol heb fod angen banciau bwyd. Lle mae bwyd lleol, cynaliadwy ac iach yn cefnogi cymunedau, eu pobl a’r amgylchedd”. Helpwch ni i greu cynllun gweithredu i gyflawni hyn ym Mhowys.

Ymunwch â ni ddydd Llun 31 Mawrth i rannu eich profiadau fel darparwr bwyd brys. Rydym yn cynnal dwy sesiwn ar-lein, 1-3pm neu 7-9pm. Ymunwch os gallwch chi. Dyma ddechrau ein proses ymgysylltu. Os na allwch ddod ar yr achlysur hwn, anfonwch unrhyw sylwadau at chloem@cultivate.uk.com ac ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau yn y dyfodol.