Cymunedau Cymraeg a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru – sesiynau sgiliau digidol am ddim ym mis Chwefror
Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop. Mae rhagor o’n gweminarau sgiliau digidol rhad ac am ddim sydd ar ddod i’w gweld yma: |
|
Gwahoddiad i chi! |
Cymunedau Cymraeg a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru – sesiynau sgiliau digidol am ddim ym mis Chwefror |
Yn Cymunedau Digidol Cymru, rydyn ni’n ymfalchïo yn y modd rydyn ni’n cefnogi ystod eang o gymunedau ledled Cymru. Ymunwch â ni ar gyfer tair weminar sydd ar ddod a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau yng Nghymru gyda sgiliau digidol. |
|
Cynhwysiant digidol ac ariannol i gefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig |
Mae’r sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Cymunedau Digidol Cymru, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Arweinwyr Arian Cymru. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar sefydliadau sy’n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig i fynd ar-lein. Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â helpu pobl i reoli eu harian ar-lein a bydd yn rhoi trosolwg o offer Arweinwyr Arian yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi pobl i fynd ar-lein a chael mynediad atyn nhw. |
Cofrestru ar gyfer y weminar: Dydd Mercher 12 Chwefror | 10-11:30yb | Ar-lein – Cofrestrwch yma Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Saesneg. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais. |
|
Diogelwch Ar-lein – Gweminar Gymraeg DCW |
Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i sgiliau diogelwch ar-lein sylfaenol y gallwch chi eu defnyddio i sicrhau eich bod yn ddiogel ar-lein. Bydd y sesiwn heno yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg. |
Cofrestru ar gyfer y weminar: Dydd Iau 13 Chwefror | 7-8:30yh | Ar-lein – Cofrestrwch yma Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Gymraeg. |
|
Y Gymraeg ar y we – gweithgareddau digidol ysbrydoledig i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein |
Nod y sesiwn hon yw eich cyflwyno i’r amrywiaeth o adnoddau Cymraeg ar-lein sydd ar gael i ysbrydoli siaradwyr Cymraeg a Saesneg i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystyrlon ar-lein. |
Cofrestru ar gyfer y weminar: Dydd Mercher 19 Chwefror | 10-11:30yb | Ar-lein – Cofrestrwch yma Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Saesneg. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais. |
|
|
|