Polisi Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru i’r Dyfodol

Mae’r tîm Cynhwysiant Digidol yn y broses o ddatblygu polisi cynhwysiant digidol ar gyfer y dyfodol, ac rydym am ymgysylltu mor eang â phosibl, gan gynnwys chi a’ch rhanddeiliaid.

Gweler ynghlwm ein pecyn briffio rhanddeiliaid, sy’n rhoi cefndir i chi o sut mae ein gwaith wedi datblygu dros y blynyddoedd blaenorol. Gobeithiwn y byddwch yn defnyddio’r ddogfen hon i gasglu barn a safbwyntiau ynghylch y pedwar cwestiwn allweddol a restrir isod (a amlygir hefyd yn y pecyn);

  1. Beth yw eich barn am y ddarpariaeth cynhwysiant digidol bresennol yng Nghymru ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol?

 

  1. Beth yw’r rhwystrau i bobl allu cael mynediad i ddarpariaeth cynhwysiant digidol?

 

  1. Beth sy’n gweithio’n dda? Allwch chi roi enghreifftiau o arfer gorau?

 

  1. Beth hoffech chi ei weld wrth symud ymlaen ym mholisi cynhwysiant digidol?

Anfonwch eich ymatebion I’r cwestiynnau uchod i DigitalInclusionMailbox@llyw.cymru erbyn Ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024, os gwelwch yn dda.

Neu, os byddai’n well gennych, ewch i’n harolwg ar-lein drwy’r ddolen a rhannwch eich barn yno;

Polisi Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru i’r Dyfodol

Byddem wir yn gwerthfawrogi pe baech yn rhoi amser i gwblhau’r arolwg hwn o safbwynt eich sefydliad i’n helpu i lywio dyfodol cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Os hoffech drefnu cyfarfod i roi adborth manylach, cysylltwch â’r blwch post a rhowch wybod i ni os ydych ar gael rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr.  Bydd aelod o’r tîm Cynhwysiant Digidol mewn cysylltiad i drefnu dyddiad cyfarfod addas.

Diolch i chi am gymryd yr amser i ymgysylltu â ni ar y maes polisi pwysig hwn, rydym yn gobeithio clywed gennych yn fuan.

 

Yr Uned Cynhwysiant Digidol

Digital Inclusion Future Policy – Stakeholder Briefing Pack – CYM