Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru 2024 nawr ar agor ar gyfer enwebiadau

Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth.

Mae yna bedwar categori ar ddeg o wobrwyon yn y meysydd canlynol:

  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Atal Troseddu
  • Ymyrraeth Gynnar
  • Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
  • Llywodraethu
  • Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
  • Troseddu a Chyfiawnder
  • Troseddu Cyfundrefnol
  • Partneriaethau
  • Diogelwch y Cyhoedd
  • Diogelu
  • Trais Difrifol
  • Terfysgaeth ac Eithafiaeth
  • Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Gallwch gyflwyno eich enwebiadau drwy lawrlwytho’r ffurflen yma a’i dychwelyd i safercommunities@wlga.gov.uk.

Bydd cynigion yn cau am 5pm ddydd Gwener 11 Hydref.