Sesiwn Wybodaeth Ar-Lein: Rhyw ac Arthritis – Sut i wneud iddo weithio
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025 dros Teams 11.00yb – 12.00yp.
Mae arthritis yn gallu effeithio ar lawer o wahanol agweddau ar eich bywyd, gan gynnwys eich hunan-barch, perthnasoedd, a’ch bywyd rhywiol. Mae’n gallu lleihau eich ysfa rywiol ac achosi anghysur corfforol a gwneud rhyw yn llai pleserus. Ond peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro rhag dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi. Ymunwch â ni i ddarganfod sut mae hyd yn oed newidiadau bach yn gallu eich helpu i barhau i gael bywyd rhywiol iach.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Mae croeso i bawb!
Cofrestrwch yn Eventbrite: Sex & Arthritis – How to make it work – Tue 11 Feb 2025 at 11:00
Ystafell yn agor am 10.50yb, mae’r cyflwyniad yn dechrau am 11.00yb. Byddwch ar amser.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.