Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Mai 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Mai 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Gofynnwyd i drigolion Cymru eu barn ar amrywiaeth o bynciau iechyd cyhoeddus.Roedd yr arolwg ym mis Mai yn cynnwys: Carbon monocsid; Brechlynnau; Heintiau; a Stigma iechyd.
SPACE
Mae ein hadroddiad TTPH diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, gyda chanfyddiadau gan 1,243 o aelodau’r panel, ar gael yma.

Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

Carbon monocsid

  • Mae mwyafrif y bobl yn ystyried eu hunain yn wybodus am wenwyn carbon monocsid (13% yn wybodus iawn; 59% yn eithaf gwybodus).
  • Dyweddodd 77% o bobl fod ganddynt larwm carbon monocsid yn eu  cartreg, a dywedodd 30% ohonynt eu bod yn gweirio eu larwm o  leiaf unwaith y mis. Mae hyn yn cyfateb i ddim ond 22% o’r holl bobl  sydd a larwm carbon monocsid s’n cael ei wirio’n rheolaidd.
  • Dywedodd 84% o bobl eu bod yn gwybod bod carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan fyddwn yn llosgi pren, olew, nwy a siarcol ar gyfer gwresogi a choginio.
  • O’r pum prif symptom, diffyg anadl oedd y lleiaf hysbys (roedd 66%  yn gwybod am y symptom hwn).

Stigma iechyd

  • Dywedodd 54% o bobl eu bod wedi oedi cyn mynd i  weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am bryder  iechyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi oedi cyn gweld  gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, dyma oedd y tri phrif reswm:
  • Roedd yn rhy anodd cael apwyntiad (38%)
  • Nid oeddwn am roi baich ar y GIG (19%)
  • Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn cael fy nghymryd o ddifrif (17%)

Heintiau 

  • Dywedodd mwy o bobl eu bod yn fwy gwybodus am gonorea (5%  yn wybodus iawn; 28% yn eithaf gwybodus) a HPV (5% yn wybodus iawn; 28% yn eithaf gwybodus) nag am Mpox (3% yn  wybodus iawn; 13% yn eithaf gwybodus).
  • Gofynnwyd i bobl pa un o chwe chyflwr yr oeddent yn gwybod  amdano y gallai’r brechlyn HPV ddiogelu yn ei erbyn. Dywedodd 51% o bobl nad oeddent yn gwybod am unrhyw un.
  • Pe byddai pobl yn meddwl bod ganddynt haint a drosglwyddir yn  rhywiol, y cam mwyaf cyffredin y byddent yn ei gymryd fyddai  cysylltu â chlinig iechyd rhywiol (67%). Fodd bynnag, pe byddent  yn meddwl bod ganddynt y feirws Mpox, byddent gan amlaf yn  cysylltu â phractis meddyg teulu (69%).

Brechlynnau 

  • Dywedodd 43% o bobl eu bod wedi clywed am y feirws syncytiol anadlol  (RSV).
  • Pe byddai brechlyn RSV yn cael ei gynnig, byddai 44% yn ei dderbyn, byddai  angen mwy o wybodaeth ar 40% cyn penderfynu, ac ni fyddai 14% yn ei  dderbyn.
  • Gofynnwyd i bobl ddewis y tri amser apwyntiad a oedd orau ganddynt pe  byddent yn cael cynnig brechlyn. Yr adegau a ddewiswyd amlaf ar gyfer  apwyntiadau oedd yn y bore, ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a  dydd Sadwrn.

I dysgu mwy am Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, ewch i dudalen we y prosiect.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag arweinydd y prosiect, Dr Catherine Sharp os hoffech ragor o wybodaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.