Datganiad gan CGGC mewn ymateb i’r ymosodiadau annheg a di-sail sydd wedi’u cyfeirio at Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn poeni’n arw ac yn ddigalon iawn i weld yr ymosodiadau diweddar sydd wedi’u cyfeirio at Gyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) ar gyfryngau cymdeithasol. Yn aelod gwerthfawr o’n sector yng Nghymru, mae’r WRC yn chwarae rhan dyngedfennol mewn cefnogi rhai o unigolion mwyaf bregus ein cymdeithas, gan gynnig gwasanaethau ac eiriolaeth hanfodol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar hyd a lled Cymru. Mae’r naratif negyddol sy’n cael ei ledaenu ar-lein nid yn unig yn annheg, ond hefyd yn gwbl ddi-sail.
Mae ymgyrchoedd lledu camwybodaeth fel yr un hon yn tanseilio ymdrechion diflin mudiadau fel WRC, sy’n gweithio beunydd i hybu tosturi, dealltwriaeth a chefnogaeth o fewn ein cymunedau. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith eithriadol eu gwaith yn helpu unigolion i ailadeiladu eu bywydau, gan feithrin cynhwysiant a chyfrannu at Gymru gryfach a thecach.
Safwn yn gadarn gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a chefnogwn eu cenhadaeth, a’r tîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr y tu ôl iddi, yn ddiamwys. Anogwn bawb i ganfod y gwir, i herio camwybodaeth ac i ddathlu cyfraniadau positif mudiadau fel WRC sy’n ymgorffori gwerthoedd fel caredigrwydd a dynoliaeth Cymru.
DATGANIAD CYNGOR FFOADURIAID CYMRU
‘Rydym yn poeni bod camwybodaeth yn cael ei lledaenu gan unigolion mewn swyddi dylanwadol. Anogwn bawb i gael y ffeithiau cyn rhannu neu gefnogi cynnwys anghywir, gan gynnwys lluniau wedi’u haddasu a honiadau camarweiniol. Gall lledaenu deunydd o’r fath wneud bygythiadau’n waeth a rhoi sylw digroeso i’n mudiad a’n staff.
‘Yn 2023, rhyddhawyd fideo gan ysgol yn croesawu ffoaduriaid. Ni fwriadwyd iddo fod yn hysbyseb i annog mudo ar unrhyw adeg, a chafodd ei lanlwytho gan yr ysgol i gyfryngau cymdeithasol i ddangos positifrwydd disgyblion.
‘Hoffai Cyngor Ffoaduriaid Cymru gadarnhau na wnaethom greu na chomisiynu’r fideo ysgol sy’n cael ei ddosbarthu ar hyn o bryd. Er na wnaethom gymryd rhan yn ei gynhyrchiad, gwnaethom ei rannu fel enghraifft bositif o bobl ifanc yn hyrwyddo negeseuon o dosturi a chynhwysiant. Yn 2023, cafodd y fideo ei dynnu i lawr wedi hyn, yn dilyn ymateb negyddol, i amddiffyn yr ysgol.
‘Rydym yn cymryd unrhyw ddatganiadau anwir neu ddifenwol o ddifrif ac yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu a’r awdurdodau perthnasol i fynd i’r afael â’r mater hwn.
‘Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn parhau i fod yn ddiysgog yn ein cenhadaeth i gynorthwyo ceiswyr noddfa a ffoaduriaid, gan feithrin dealltwriaeth a hyrwyddo cynhwysiant. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’r unigolion a’r cymunedau sy’n parhau i gefnogi ein gwaith ac yn sefyll gyda ni i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol.’
Os ydych wedi cael eich effeithio gan y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â newyddion@wcva.cymru.