Sir Drefaldwyn yn unig – Cronfa Windfall

Cymorthdaliadau newydd Windfall i hybu prosiectau cynaliadwyedd ym Maldwyn – Gall grwpiau cymunedol ymgeisio o heddiw ymlaen am gymorthdaliadau o hyd at £30,000

Gellir ymgeisio o heddiw ymlaen i’r prosiect Windfall sy’n cynnig cymorthdaliadau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy’n bennaf. Yn y cylch ariannu cyntaf hwn, gwahoddir grwpiau cymunedol ym Maldwyn i ymgeisio, a rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd cynghorau cymunedol Carno, Caersws, Trefeglwys, Dwyriw, Llanbrynmair a Llanerfyl.

Fe all yr ariennir mentrau carbon isel, cydranedig, cymunedol a theithio llesol, yn ogystal â gweithgareddau addysgiadol sy’n anelu at ddatblygu cynaliadwy. Ymhlith y rhai a gawsant fudd yn y gorffennol mae neuaddau pentref ac adeiladau cymunedol eraill, clybiau pêl-droed, mentrau ynni cydweithredol, sefydliadau hyfforddi a grwpiau gweithredu ynglŷn â’r hinsawdd. Gallai ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn cymhorthdal o hyd at 100% o werth y prosiect, hyd at fwyafswm cymhorthdal unigol o £30,000.

Windfall yw enw gweithiol Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru, sefydliad nid-er-elw sy’n amcanu cysylltu enillion o ynni adnewyddadwy ag adfywiad cefn gwlad trwy brosiectau ynni cynaliadwy. Mae cymhorthdal i brosiectau cymunedol yn defnyddio arian a ddarparwyd yn wirfoddol gan ddatblygwyr cynhyrchu ynni a datblygiadau eraill. Ar hyn o bryd mae arian ar gael gan Amegni Ltd, sydd biau Fferm Wynt Carno. Mae cyfarwyddwyr Windfall wedi creu gwefan newydd sbon windfall.wales yn ystod y gaeaf, yn ogystal â hwyluso’r broses ymgeisio am gymorthdaliadau.

Dyweodd Andy Bull, Cadeirydd Windfall: ‘Mae’n dda calon gennym gyhoeddi’r cylch ariannu cyntaf hwn. Hoffwn annog grwpiau cymunedol i ymuno ac ymgeisio am gymorthdaliadau a allent wneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol, yn enwedig y rhai yng nghyffiniau fferm wynt Carno. Efallai fod a wnelo hyn â sefydlu camau ynni adnewyddadwy neu brosiect a fydd yn lleihau ôl troed carbon cymuned, efallai: rydym yn barod i ystyried amrywiaeth eang o gynigion.’

Mae’r elusen gynaliadwyaeth Asiantaeth Ynni Severn Wye yn rheoli’r cynllun cymhorthdal i ddosbarthu arian i ymgeiswyr llwyddiannus. Dywedodd Dave Gittins, Cyfarwyddwr Cymru Severn Wye:

‘Bydd yr ariannu hwn yn rhoi hwb pwysig i brosiectau cynaliadwyaeth ledled Maldwyn. Rydym ar binnau eisiau gweld pa syniadau ddaw ymlaen, a sut allwn helpu cymunedau lleol fwrw ymlaen â’u teithiau carbon isel.’

Manylion y cynllun

Ceir manylion llawn ar wefan Windfall, ond mae’r cynllun yn chwilio’n arbennig am brosiectau sy’n ymwneud â chynhyrchu ynni adnewyddadwy; camau effeithlonrwydd ynni neu leihau’r galw; mentrau cydranedig, cymunedol a theithio llesol; a gweithgareddau addysgiadol ynglŷn â datblygu cynaliadwy.

Sut mae ymgeisio

Gall y sawl sydd â diddordeb mewn ymgeisio ganfod cyfarwyddiadau llawn a ffurflenni cais ar wefan Windfall:  https://www.windfall.wales/cy/

Os am holi ynghylch y cynllun neu’r broses ymgeisio, gyrrwch neges e-bost at:

grants@windfall.wales

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau i’r cylch hwn yw 17 Mawrth 2025. Disgwylir i gylchoedd ychwanegol agor yn Ebrill ac Awst 2025.

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

Mae Severn Wye yn elusen gynaliadwyedd sy’n gweithredu ledled Cymru a’r Mers yn bennaf. www.severnwye.org.uk

Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru

Am ragor o wybodaeth neu gyfweliadau cysylltwch â thîm gyfathrebu Severn Wye:

communications@severnwye.org.