Swyddog Prosiect – HOPE – Powys a Cheredigion

Teilt y Swydd: Swyddog Prosiect – Rhan Amser
Categori’r Swydd: Age Cymru – Prosiect HOPE
Lleoliad: Powys a Cheredigion
Cyflog: £22,798 (CALl £28,497)
Math o gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol hyd at 31/3/26 – 28 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 28 Chwefror 2025

Mae Age Cymru’n chwilio am Swyddog Prosiect rhan amser.  Rydyn ni’n chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu da, ac sydd yn medru gweithio’n dda gyda phobl, er mwyn cefnogi gwaith pwysig Prosiect HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu).  Mae’r prosiect yn gweithio’n agos ac ar y cyd gydag Age Connects lleol a phartneriaid Age Cymru.  Mae’r prosiect yn hynod o bwysig er mwyn darparu eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn a’u gofalwyr ledled Cymru. (Contract cyfnod penodol tan 31/03/2026)

 

Am fwy o wybodaeth: Swyddog Prosiect – HOPE – Powys a Cheredigion