Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn addo gweithio gyda phobl leol ar gynlluniau gofal iechyd yn y dyfodol

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn galw ar holl breswylwyr, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth Powys i rannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau iechyd.
Mae’r rhaglen ‘Gwella Gyda’n Gilydd’ yn gweithio ledled y sir i ddod o hyd i ffyrdd o barhau i ddarparu gwasanaethau o safon sy’n diwallu orau anghenion pobl Powys.
Dywedodd Hayley Thomas, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP): “Ein huchelgais yw bod trigolion Powys yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd diogel, o ansawdd sy’n ddibynadwy. Rydym am wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym, wrth hefyd sicrhau, yn anad dim, bod gofal a diogelwch cleifion ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn.”
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r sir a’i phoblogaeth wedi profi llawer o newidiadau. Mae
cymunedau’n mynd yn hŷn, ac wrth iddynt heneiddio, mae mwy o bobl yn byw gyda dau neu fwy o gyflyrau iechyd. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn dal i ddelio ag etifeddiaeth Pandemig COVID-19, gan gynnwys galw cynyddol am driniaethau, rhestrau aros sy’n cynyddu, yn ogystal â chynnydd mawr yng nghost tanwydd, bwyd a biliau eraill.
Gwella Gyda’n Gilydd yw addewid y bwrdd iechyd i weithio gyda phobl leol a sefydliadau rhanddeiliaid, gan gynnwys PAVO, i ddatblygu cynllun sy’n diwallu anghenion iechyd a gofal Powys dros y 10 i 25 mlynedd nesaf.
Bydd y cynllun hwn yn sicrhau y gall y bwrdd iechyd ymateb i newidiadau mewn salwch a thriniaethau a buddsoddi mwy mewn atal salwch, gwella ei gyfleusterau ac adeiladu gweithlu cynaliadwy i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.
Mae gwrando ar farn yn hanfodol, gyda’r ymgysylltiad cychwynnol yn dechrau ar 28 Ebrill ac yn dod i ben ar 25 Mai.
I gymryd rhan, ewch i wefan Gwella Gyda’n Gilydd y bwrdd iechyd [https://www.haveyoursaypowys.wales/better-together-spring25] i wylio neu wrando ar y fideo cryno Achos dros Newid, neu i ddarllen y crynodeb neu’r dogfennau Achos dros Newid llawn. Os oes angen copi papur arnoch, os ydych am gael fersiwn hawdd ei ddarllen, neu i gofrestru i dderbyn diweddariadau rheolaidd ewch i: https://pthb.nhs.wales/news-sign-up
NEU
Ffoniwch: 01874 442917
E-bostiwch: powys.engagement@wales.nhs.u
Ysgrifennwch atom: Gwella Gyda’n Gilydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys, LD3 0LY