CYNHADLEDD FLYNYDDOL PAVO A GWAHODDIAD CYFARFODYDD CYFFREDINOL

GWAHODDIAD –  CYNHADLEDD FLYNYDDOL A CHYFARFOD CYFFREDINOL

Dydd Iau 7 Tachwedd 2024,
10.00–4.00pm

“Gwerth y Trydydd Sector ym Mhowys”

Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Dolfor, Y Drenewydd, Powys
SY16 4AJ

Mae’n bleser mawr gen i’ch gwahodd i Gynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol PAVO, a gynhelir eleni ar ddydd Iau 7fed Tachwedd 2024.  Gweler y rhaglen atodedig drwy glicio ar y ddolen hon.

Rydym yn ffodus i gael prif siaradwr MS Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ystod y bore ac yna trafodaeth banel ar “Cydnabod Gwerth Sector Gwirfoddol Powys’ gydag aelodau’r panel – Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Thwf, Cyngor Sir Powys a Rob Jackson, Hwylusydd “Dyfodol Gwirfoddoli”.

Bydd y prynhawn yn cynnwys Sesiynau Gweithdy ar bynciau megis:

  1. Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (Dangos gwerth mewn £s)
  2. Ail-ddyfeisio eich ymgysylltiad gwirfoddol
  3. Gwerthfawrogi ein Straeon – rôl naratif wrth ddangos effaith
  4. Dim byd Amdanom Ni Hebddon Ni – Y realiti o weithio gyda dinasyddion wrth ddylunio a darparu gwasanaethau
  5. Gwerthfawrogi eich Gweithlu a’ch Gwirfoddolwyr – cyflwyniad i Arweinyddiaeth Tosturiol

Bydd hefyd a Marchnad y Trydydd Sector rhoi’r cyfle i chi hyrwyddo eich sefydliad ac i gysylltu â chydweithwyr ar draws y sector a chyda phartneriaid Powys.  Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar.

Mae croeso cynnes yn aros yr holl wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr a gobeithiaf yn fawr y gallwch ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Bydd coffi ar gael o 9.30yb cyn dechrau ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 10.00yb. 

Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd Flynyddol PAVO yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr eraill yn y sector, yn ogystal â phartneriaid mewn sectorau eraill i rannu gwybodaeth ac arfer da.

I roi gwybod i ni os ydych yn gallu mynychu, dewis sesiwn gweithdy ac unrhyw ofynion cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein, ffôn: 01597 822191 neu e-bost: ruth.middleton@pavo.org.uk.

Edrychaf ymlaen at eich gweld ar 7h Tachwedd.

Yr eiddoch yn gywir

Jamie Burt
Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Twitter
Facebook
Website