Sefydliadau’n rhannu grant o £30,000 i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant

Mae dros 35 o sefydliadau ledled Powys wedi rhannu grant gwerth £30,000 i helpu i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau i gefnogi teuluoedd a phlant sy’n profi tlodi neu sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.

Wedi’i gyflwyno gan Gyngor Sir Powys i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant yn y sir, roedd y Mentrau Peilot ar gyfer Ymgysylltu Lleol yn gynllun grant bach oedd ar gael i sefydliadau gyflwyno mentrau a digwyddiadau yn canolbwyntio ar y gymuned i gefnogi teuluoedd incwm isel, teuluoedd sy’n profi tlodi neu sy’n cael eu heffeithio gan gostau byw.

Ariannwyd y cynllun diolch i Gynllun Tlodi Plant: Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau gan Lywodraeth Cymru, y llwyddodd y cyngor i’w sicrhau y llynedd.

Mae ystod amrywiol o weithgareddau wedi’u trefnu ledled Powys diolch i’r cynllun, gan ddod â chefnogaeth oedd ei angen yn fawr ar deuluoedd a phlant. Mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Rhaglenni aml-chwaraeon yn Nhref-y-clawdd, y Drenewydd a’r Trallwng, gan ymgysylltu â phlant rhwng pedair a 12 oed mewn gweithgareddau corfforol yn ystod hanner tymor
  • Gweithgareddau celfyddydol i’r teulu yn Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Threfaldwyn i feithrin creadigrwydd ac ysbryd cymunedol
  • Sesiynau dawns wythnosol yn Aberhonddu i blant hyd at bump oed
  • Clwb brecwast yn Llandrindod lle roedd plant yn mwynhau brecwast iachus a gweithgareddau creadigol gyda’i gilydd.

Meddai’r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: “Bydd y mentrau a’r digwyddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ym mywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi a’r argyfwng costau byw yn ein sir.

“Trwy ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd hanfodol i deuluoedd a phlant, rydym yn meithrin cymuned gryfach, fwy gwydn.

“Rydym yn hynod falch o ymdrechion yr holl grwpiau a sefydliadau i drefnu’r digwyddiadau hyn ac yn ddiolchgar am y cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn bosibl.”

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: “Mae mentrau sy’n cefnogi lles plant yn allweddol i adeiladu sir ddisgleiriach a thecach ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

“Diolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ym Mhowys, gan rymuso sefydliadau cymunedol i greu cyfleoedd sy’n helpu teuluoedd i ffynnu er gwaethaf heriau ariannol.”

Meddai’r Cynghorydd Joy Jones, Hyrwyddwr Gwrth-Dlodi Cyngor Sir Powys: “Bydd y gweithgareddau a’r digwyddiadau a ariennir drwy’r Mentrau Peilot ar gyfer Ymgysylltu Lleol yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a phlant ledled Powys ac maent yn hanfodol wrth fynd i’r afael â’r heriau a achosir gan dlodi a’r argyfwng costau byw.

“Diolch o galon i’r holl sefydliadau sy’n cymryd rhan a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth werthfawr.”