Gweminarau ‘Diogelwch Ar-lein’ a ‘Deall Sgiliau Digidol Trosglwyddadwy’ rhad ac am ddim ym mis Chwefror

Scroll down to view this email in English.

Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop.

Mae rhagor o’n gweminarau sgiliau digidol rhad ac am ddim sydd ar ddod i’w gweld yma:
https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/rhaglen-gweminar/

Gwahoddiad i chi!

Gweminarau ‘Diogelwch Ar-lein’ a ‘Deall Sgiliau Digidol Trosglwyddadwy’ rhad ac am ddim ym mis Chwefror

Diogelwch Ar-lein

Ar Safer Internet Day 2025, ymunwch â ni am weminar ar ddiogelwch ar-lein i ddysgu rhai o hanfodion diogelwch ar-lein. Gallwch ddefnyddio’r rhain i helpu eraill i adeiladu sylfeini diogel cryf ar gyfer diogelwch ar-lein wrth ddysgu sgiliau digidol.

Cofrestru ar gyfer y weminar:

Dydd Mawrth 11 Chwefror | 2-3:30yb | Ar-lein – Cofrestrwch yma

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Saesneg.

Cefnogi pobl gyda sgiliau digidol trosglwyddadwy bob dydd

Mae yna lawer o sgiliau digidol hanfodol a ddefnyddiwn o ddydd i ddydd sy’n cysylltu â gwahanol dasgau. Rydyn ni’n llenwi ffurflenni ar wahanol wefannau, yn cyfathrebu gan ddefnyddio gwahanol wasanaethau negeseuon, ac yn defnyddio diogelwch ar-lein ar gyfer gwahanol weithgareddau digidol. Bydd y sesiwn hon yn rhoi opsiynau i chi ar gyfer cefnogi eraill i ddysgu sgiliau digidol trosglwyddadwy.

Cofrestru ar gyfer y weminar:

Dydd Mercher 26 Chwefror | 10-11:30yh | Ar-lein – Cofrestrwch yma

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.