GRANT Adfer Mawndir Newydd

  • Lansiwyd y grant cystadleuol hwn gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar 18/12/2024 a bydd yn agored tan 18/3/2025.

    Grant Adfer Mawndir

    • Mae’r Grant Adfer Mawndir newydd wedi agor ar 18/12/2024 ac yn cau am ganol nos 18/3/2025.
    • Mae cronfa gwerth oddeutu £700,000 ar gael i ddosbarthu grantiau £10K-£250K i unigolion a sefydliadau adfer mawndir.
    • Mae’r Grant Adfer Mawndir yn newydd gan ei fod yn cyfuno pwrpas y grantiau Datblygu a Chyflawni blaenorol. Bu’r ddwy ffurf o grant yn llwyddiannus ond mae’r grant newydd yn cynnig hyblygrwydd i’r partneriaid sydd am symud yn syth o’r cyfnod datblygu cynlluniau i gyflawni’r adfer ar y tir.
    • Mae modd felly gwneud cais i gynllunio’r adfer, i weithredu’r adfer, neu gyfuniad o’r ddau.
    • Rhaid cwblhau prosiectau  llwyddiannus erbyn 31/3/26.
    • Ceir yr holl fanylion a mynediad i’r broses ymgeisio drwy dudalen we Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
    • I esbonio’r broses ymgeisio, cynhelir gweminarau ar Teams ar 6/2/2025. (9:30-10:30yb Saesneg a 11:00yb-12:00yp Cymraeg) gyda chofrestru yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
    • Uwchlwythir recordiad o’r gweminarau er mwyn cyfeirio nôl atynt.
    • Ariennir y grantiau gan CNC / y RhWGF sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.
    • Mae gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC rôl strategol yn ehangu adfer mawndir Cymru gyda phartneriaid.
    • Cyhoeddiad Grant Adfer Mawndir. 

    Diolch am eich cefnogaeth i rannu’r wybodaeth.

    Dylid cyfeirio pob ymholiad am y grant a’r broses ymgeisio at grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

    Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â mawndir yn benodol, dylid danfon at NPAP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.