Rheoli eich hunan ac eraill

NEWYDD: Rheoli eich hunan ac eraill – rhaglen wyth modiwl ar-lein

Ionawr – Mehefin 2025, ar-lein

Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.

 

Uchafbwyntiau’r cwrs:

  • Hyd: 3 awr y modiwl, ar-lein
  • Wyth modiwl y gellir eu hastudio’n unigol neu fel cwrs cyflawn
  • Cynnig arbennig: Archebwch le ar yr wyth modiwl a chael £50 o gredyd tuag at gwrs yn y dyfodol
  • I bwy mae’r rhaglen hon: Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr

Canlyniadau dysgu’r rhaglen

  • Cael dealltwriaeth ddyfnach o sut i reoli eich hunan ac eraill
  • Dysgu technegau ymarferol ar gyfer ysgogi timau a meithrin amgylchedd cynhyrchiol
  • Meistroli sgiliau arweinyddiaeth hanfodol i yrru llwyddiant eich mudiad

Hyfforddwyr: Mae gan Mandy Williams ac Eileen Murphy flynyddoedd o arbenigedd mewn rhoi hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheolaeth.

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

MODIWL 1: DATBLYGU MEDDYLFRYD TWF
28 Ionawr 2025 – 9.30 am tan 12.30 pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Archebwch le yma

MODIWL 2: GOSOD NODAU A GWERTHOEDD
4 Chwefror 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Archebwch le yma

MODIWL 3: ADEILADU TÎM
13 Mawrth 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Archebwch le yma

MODIWL 4: ADNODDAU AR GYFER GWEITHIO MEWN GRŴP
25 Mawrth 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Archebwch le yma

MODIWL 5: DYLANWADU A GWLEIDYDDIAETH SEFYDLIADOL
8 Ebrill 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Archebwch le yma

MODIWL 6: ARWAIN TRWY NEWID
1 Mai 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Archebwch le yma

MODIWL 7: DIRPRWYO A’R DDAWN O DDWEUD NA
20 Mai 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Archebwch le yma

MODIWL 8: RHOI A DERBYN ADBORTH
10 Mehefin 2025, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Archebwch le yma

Cael gwybod mwy a chadw lle
Hwb Gwybodaeth 
Os ydych chi’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn rhoi mynediad hawdd i chi at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein.

Cofrestrwch am ddim

Torf-gyllido hyfforddiant

Y cwrs cywir ond yn y lleoliad neu iaith anghywir? Os gwelwch gwrs sy’n ennyn eich diddordeb yn y rhaglen hyfforddi hon neu rywle ar ein gwefan ond nid yw’n cael ei gynnal mewn lleoliad cyfleus neu byddai’n well gennych wneud y cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yna mae croeso i chi gysylltu â ni. Os gallwch ddod o hyd i ddiddordeb yn y cwrs yn eich ardal yna gallwn ni ddod atoch chi a’ch helpu i’w hyrwyddo hefyd.

Hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u teilwra

Gallwn ni ddod atoch chi! Mae modd cynnal pob un o’n cyrsiau yn arbennig i chi yn eich mudiad. Mae hyn yn aml yn rhatach gan ddibynnu ar y niferoedd. Mae cyrsiau Cymraeg a dwyieithog hefyd ar gael. Gallwn weithio gyda mudiadau ledled Cymru a Lloegr.

Cymryd Rhan

I weld manylion llawn y cwrs, gan gynnwys prisiau a faint o leoedd sydd ar gael, cliciwch ar ddyddiad y cwrs neu cysylltwch â’n Lein Gymorth 0300 111 0124 neu training@wcva.cymru.