Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys
Mae’r arolwg o’r enw “Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys” yn gyfle i breswylwyr rannu eu barn ar fywyd yn y sir a’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
Drwy ymateb i’r arolwg hwn, byddwch yn helpu’r Cyngor i ddeall yn well:
- Yr hyn sy’n bwysig i chi
- Eich profiad o’ch ardal leol
- Sut rydych yn rhyngweithio â’r Cyngor a’ch barn am hynny
Llenwch yr arolwg ar-lein yma: https://surveys.data.cymru/s/524ArolwgPreswylwyr_ResidentSurvey/
Ymatebwch erbyn dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at ffurf i’w argraffu a’i lawrlwytho a chopïau Hawdd eu Darllen o’r arolwg, ewch i: https://www.haveyoursaypowys.wales/powys-survey
Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Powys.