Rheolwr Prosiect Macmillan: Rhaglen Gwella’r Daith Canser
Byddwch yn rhan o ‘Bowys Iach a Gofalgar’ a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau’n Dda, Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda.
Trosolwg o’r swydd
Cyfnod penodol am 20 mis oherwydd cyllid.
Rydym yn chwilio am Reolwr y Prosiect sy’n frwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â’r tîm ac ymgymryd â’r rôl bwysig o ddarparu’r Rhaglen Gwella’r Daith Canser. Er mwyn cyflawni’r rôl hon, bydd angen i Reolwr y Prosiect fod yn ddeinamig ac yn gallu arddangos dealltwriaeth o sut gallwn wella’r cymorth i bobl yn byw gyda chanser ym Mhowys.
Bydd y deiliad y swydd yn gweithredu rôl allweddol o fewn Rhaglen Gwella’r Daith Canser, sy’n fenter ar y cyd rhwng Macmillan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys. Mae model Gwella’r Daith Canser yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth gyfannol sy’n unigryw i bobl sy’n byw gyda chanser.
Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth:
Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys