Helpwch i lunio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr – bron i ddwy ran o dair o Gymru. Mae’r Gwasanaeth yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru. 

Byddent wrth eu bodd yn clywed eich barn am eich disgwyliadau o’r Gwasanaeth, yn ogystal â’r hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn y credwch y dylent ei flaenoriaethu. 

Gallwch gymryd rhan trwy gwblhau’r arolwg YMA

Bydd y wybodaeth y byddant yn ei chasglu yn eu helpu i deilwra eu gwasanaethau’n briodol, gan eu galluogi i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r ffurflen yn ddienw ac yn gyfrinachol, felly ni fydd unrhyw wybodaeth a roddir yn eich adnabod. Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn iaith/fformat gwahanol, cysylltwch â’r gwasanaeth ar 0370 6060699.