Ffit i Ffermio
Mae Ffit i Ffermio yn rhaglen allgymorth newydd gyffrous a gynlluniwyd i gefnogi anghenion iechyd a lles cymdeithasol penodol cymunedau ffermio ym Mhowys, gan hyrwyddo busnesau fferm cryfach a chymunedau ffermio iachach.
Bob mis rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2024, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, staff Cyngor Sir Powys, ac aelodau o’r sector gwirfoddol yn ymweld â marchnadoedd da byw yn y Trallwng, Aberhonddu, a Llanfair-ym-Muallt i ddarparu gwasanaeth hygyrch a phriodol wedi’i deilwra.
Mae’r prosiect yn cael ei lansio yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2024 yn Llanelwedd – a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Llun 22 – dydd Iau 25 Gorffennaf – ac yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys (CSP), Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), a Chymdeithas Powys o Sefydliadau Gwirfoddol (PAVO).