Lluoswch 3 chwrs – Awydd cwrs am ddim i loywi eich sgiliau mathemateg?
Datgloi Pŵer Cyfrifiadau Lefel 1
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatrys problemau bywyd go iawn, megis: cyfrifo gostyngiadau, cyllidebu, gwariant, ryseitiau, cyfraddau llog a llawer mwy.
7 sesiwn o 3 awr
Rheoli Arian Personol Lefel 1
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall gwahanol dermau ariannol a’ch hawliau fel defnyddiwr, sut i greu cynllun cyllideb misol, gwybod am reoli dyled a benthyca a lle i fynd am gymorth pellach.
3 sesiwn o 2 awr
Sgiliau Busnes AAT Lefel 1
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae gwahanol sefydliadau yn gweithredu, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Byddwch hefyd yn dysgu’r sgiliau rhifiadol sylfaenol sydd eu hangen
yn y gweithle, ac mewn bywyd y tu allan i’r gwaith.
8 sesiwn o 4 awr
I gofrestru eich diddordeb e-bostiwch: powys.healthcareandsocialcareacademy@wales.nhs.uk