Events in North Wales for adult social care employers

- Employer Support Roadshow – At this event, adult social care employers can learn more about our offer to them, with sessions on anti-racism in social care, compassionate leadership and understanding your digital potential
- Wellbeing and leadership day for adult social care managers – This is a face to face event in Wrexham at the beginning of March, focusing on wellbeing of managers and compassionate leadership.
- Regulation Workshops for Adult Social Care Employers – We have just advertised an event for employers with a good insight into our regulations processes where they can map out their journey, ask questions and support us to make improvements.
1)
Sioeau Teithiol Cymorth i Gyflogwyr
Dyddiad: 18 Chwefror 2025
Amser: 9.30am – 3pm
Lleoliad: Canolfan Gynadleddau Medrus, Prifysgol Aberystwyth, Derbynfa Penbryn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY
Gwybodaeth am y digwyddiad
Dewch i glywed am y gwasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i chi gan gynnwys:
- y tîm gymorth i gyflogwyr
- ein ‘cynnig i gyflogwyr’.
Bydd yna hefyd sesiynau am:
- gwrth-hiliaeth mewn gofal cymdeithasol
- arweinyddiaeth dosturiol
- deall eich potensial digidol
Mae’r sioeau yma ar gyfer:
Cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.
Bydd diodydd a chinio ar gael.
Mae mynychu’r sesiwn yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych chi wedi cofrestru â ni.
2)
Diwrnod llesiant ac arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol i oedolion.
Dyddiad: 11 Mawrth, 2025
Amser: 9:30am – 3pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun
40 lle ar gael (uchafswm o 2 le i bob sefydliad)
Os hoffech chi fod yn arweinydd mwy tosturiol, canolbwyntiwch arnoch chi eich hunain i ddechrau.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i chi ddod i wybod am fwy o bethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich llesiant eich hun fel rheolwr.
Yn dilyn hynny, byddwn ni’n rhoi cyflwyniad i arweinyddiaeth dosturiol a fydd yn gyfle i chi ddysgu mwy am bwysigrwydd bod yn dosturiol er mwyn gwella canlyniadau, llesiant staff, gallu’r sefydliad i ddal gafael ar staff, a diwylliant y sefydliad
Mae’r sesiwn hon ar gyfer:
Rheolwyr gofal cymdeithasol, Unigolion Cyfrifol ac unrhyw un arall sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a all wneud atgyfeiriadau i’n tîm addasrwydd i ymarfer.
Darperir lluniaeth a chinio.
Archebwch eich lle ar Eventbrite.
3)
Gweithdai Rheoleiddio ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol i oedolion
Dyddiad: 26 Mawrth, 2025
Amser: 9:30am – 3pm
Lleoliad: Cyffordd Llandudno
40 lle ar gael (uchafswm o 2 le i bob sefydliad)
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar eich taith fel cyflogwr drwy wahanol rannau o’r broses gofrestru ac addasrwydd i ymarfer. Bydd staff Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhannu gwybodaeth am gofrestru, cymwysterau ac addasrwydd i ymarfer, a byddant yn gallu ateb eich cwestiynau.
Byddwn hefyd yn mynd ati i edrych ar feysydd lle gallech brofi heriau. Bydd cyfle i chi rannu eich profiadau a’ch syniadau i wella’r broses ar gyfer pob cyflogwr yn y sector.
Er mwyn ein helpu i lunio cynnwys y diwrnod, dywedwch wrthym wrth gofrestru a oes unrhyw beth penodol yr hoffech ei ddysgu yn y digwyddiad ac a oes gennych unrhyw syniadau ynghylch sut y gellir gwella ein proses.
Mae’r sioeau teithiol hyn ar gyfer:
Cyflogwyr gweithwyr cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig
Mae’n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth a phrofiad blaenorol o gofrestru a chefnogi staff gyda chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru.
Oherwydd y niferoedd, dim ond lle i ddau berson o bob sefydliad sydd yn digwyddiad hwn. Os oes mwy na dau o bobl yn eich sefydliad a fyddai’n hoffi bod yn rhan o sgwrs am y pwnc hwn, cysylltwch â ni ar employersupport@socialcare.
Archebwch eich lle ar Eventbrite.