Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Grantiau Natur ar gyfer Lleoedd Lleol

Mae Cyngor Sir Powys ar y cyd â Phartneriaeth Natur Powys, wedi cael dyraniad o arian oddi wrth Leoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Nod Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yw creu natur ar eich stepen drws, ymgysylltu cymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur.

Rhaglen o’r gwaelod i fyny yw Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur sy’n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd difreintiedig a/neu’r ardaloedd hynny sydd â mynediad cyfyngedig at natur.

Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnig cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau i wneud bid am arian grant i greu lleoedd lleol ar gyfer natur mewn cymunedau.

Mae’r gronfa’n agored i:

  • grwpiau cymunedol
  • sefydliadau gwirfoddol
  • elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill
  • sefydliadau’r sector cyhoeddus gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned

Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un o’r canlynol:

  • Cynyddu plannu blodau gwyllt
  • Cynyddu cyfleoedd tyfu bwyd cymunedol
  • Cynyddu plannu coed lleol
  • Creu coetiroedd dwys ac amrywiol yr un maint â chwrt tenis
  • Creu cynefinoedd mewn gorsafoedd trenau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth
  • Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri glaswellt
  • Creu gerddi synhwyraidd
  • Lleihau’r defnydd o blaladdwyr
  • Cynyddu mynediad y cyhoedd at ddŵr yfed
  • Adfer neu greu perllannau cymunedol.

Grant ad-dalu yw hwn felly caiff yr arian ei ryddhau ar ôl i chi wneud taliadau i’ch prosiect. Bydd agen i’ch sefydliad allu talu am flaen gostau cyflawni’r prosiect gyda’r ad-daliad yn dod atoch ymhen 30 dydd.

Ymhlith y prosiectau a ariannwyd yn flaenorol mae:

  • gwella mynediad at natur
  • creu cynefin peillio, dolydd blodau gwyllt a gerddi bywyd gwyllt
  • rheoli blodau gwyllt ar leiniau ymyl y ffordd
  • cartrefi i anifeiliaid (gwesty chwilod, blychau adar ac ystlumod)
  • perllannau, tyfu bwyd cymunedol
  • ysgolion coedwig

Rydym yn derbyn ceisiadau am arian i Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol. Gallwch ddod o hyd i Nodiadau Canllaw a Ffurflenni Cais isod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 20 Awst 2024.

Grantiau Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol (PDF) [229KB]

Grantiau Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymunedol Ffurflen Gais (Word doc) [880KB]

Mae gan Cadw Cymru’n Daclus grantiau hefyd ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – pecynnau gosod yw’r rhain, o fân brosiectau garddoi I berllannoedd a gwaith ailwampio ar raddfa eang. I gael rhagor o fanylion, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/cadwraeth/