Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy

Mae Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy yn awr yn agored!

Mae gennyf newyddion cyffrous i’w rhannu gyda chi – mae ein Cronfa Gymunedol wedi dychwelyd am flwyddyn arall, gyda £50,000 yn rhagor i’w ddyfarnu yn ein cymunedau, a pharhawn i ganolbwyntio ar gynnig cymorth gyda chostau craidd.

Efallai y cofiwch y gwnaethom ail-ganolbwyntio’n cyllid ‘llynedd i roi cymorth gyda chostau beunyddiol i helpu grwpiau yn ein rhanbarth oedd yn wynebu adegau cynyddol anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.

Gyda llawer o elusennau a grwpiau yn dal i deimlo’r effeithiau, mae gan y Gronfa eleni £50,000 arall i helpu i dalu costau craidd i grwpiau yn rhanbarth Hafren Dyfrdwy.

 

Ein meini prawf

Mae’r cyllid hwn ar gyfer grwpiau sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i breswylwyr lleol ac sydd yn ei chael hi’n anodd cynnal eu gweithgareddau cyfredol.

Gall grwpiau ymgeisio i gael eu hystyried am grant cyfyngedig o rhwng £2,000 – £10,000 am 1 flwyddyn i’w helpu i barhau i ddarparu’u gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.

Bydd y cymorth hwn ar gael i sefydliadau nid-er-elw yn rhanbarth Hafren Dyfrdwy sy’n:

  • darparu gwasanaeth hanfodol drigolion lleol, ac yn gwella lles y gymuned ehangach, yn enwedig gan gynorthwyo’r rhai sydd fwyaf agored i niwed;
  • wedi bod yn gweithredu am 12 mis neu fwy (ac mae ganddynt o leiaf un set o gyfrifon ffurfiol);
  • sydd ag incwm blynyddol o £250,000 neu lai (yn seiliedig ar gyfrifon ‘llynedd).

Os yw sefydliad wedi’i seilio ar ffydd, mae’n gymwys i ymgeisio, cyn belled â bod y cais ar gyfer gwaith cymunedol, e.e., banciau bwyd neu ganolfannau clyd.  Ni allwn gyllido ymarfer crefydd nac unrhyw weithgareddau sy’n hyrwyddo crefydd neu systemau cred neilltuol yn weithredol.

 

Nid yw grwpiau chwaraeon, Sgowtiaid, y Geidiau, Cadlanciau neu gyrff statudol yn gymwys ar gyfer y ffrwd hon.

Mae ceisiadau yn agored yn awr a byddant yn agored tan y dyfarnir y cyllid.

Rhagwelwn y bydd y galw am ein cymorth yn uchel, ac felly er y byddem yn hoffi gwneud hynny, yn anffodus ni allwn ariannu pob cais a dderbyniwn.

Gellir canfod ein meini prawf am gymhwysedd, a manylion am sut i ymgeisio yn www.hdcymru.co.uk/communityfund