Cysylltwyr Cymunedol Cyfarfodydd Rhwydwaith Chwefror
Cynhelir ein cyfarfodydd rhwydwaith Cysylltwyr Cymunedol bob chwarter, gan ddod â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau ynghyd i feithrin cydweithredu a newid cadarnhaol.
Mae’r sesiynau hyn yn cynnig llwyfan gwerthfawr i:
- Trafod materion iechyd a lles allweddol yn y gymuned.
- Nodi bylchau mewn gwasanaethau lleol.
- Cydweithio i ddatblygu atebion sy’n cael effaith
Dyddiadau i ddod:
5/2 – Ystradgynlais, arlein, 10.30 – 12.00
14/2 – Y Gelli a Thalgarth, Academi Iechyd, Gofal a Gofal Cymdeithasol, Ysbyty Bronllys, 10.30 – 12.00
19/2 – Trefyclo a Llanandras, ar-lein, 10.30 -12.00
20/2 – Llanidloes, Canolfan Gymunedol Llanidloes, 10.30 – 12.30
26/2 – Crucywel, ar-lein, 10.30 – 12.00
27/2 – Llandrindod, Rhaeadr Gwy, Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, hybrid yn Swyddfeydd PAVO, U30 Heol Ddole, Llandrindod, neu ar-lein, 10.30 – 12.00
Am ragor o fanylion, cysylltwch â julie.king@pavo.org.uk