Cydweithio ar gyfer newid: Ymateb i Dlodi Plant ym Mhowys
“Cydweithio ar gyfer newid: Ymateb i Dlodi Plant ym Mhowys”
Canllawiau Grant Mentrau Ymgysylltu
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru gyllid yn ddiweddar ar gyfer prosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) drwy eu Grant Arloesi Tlodi Plant. O fewn y prosiect hwn, dyrannodd Gyngor Sir Powys a PAVO gyllid ar gyfer cynllun grant bach o’r enw Mentrau Peilot Ymgysylltu Lleol i gefnogi teuluoedd a phlant sy’n profi tlodi neu sy’n cael eu effeithio gan yr argyfwng costau byw.
Mae’r cynllun grant bach hwn yn cynnig cyfle ariannu lle gall sefydliadau a grwpiau unigol wneud cais i gyflwyno mentrau a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn blaenoriaethu cymorth ar gyfer teuluoedd incwm isel, teuluoedd sy’n profi tlodi neu’r rhai y mae costau byw yn effeithio arnynt.
Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau grant ynghlwm.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor rhwng 11 Tachwedd 2024 a 29 Tachwedd 2024 (gan gau am hanner dydd ar 29 Tachwedd).
Rhaid darparu’r holl weithgareddau a gwario’r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.
Bydd sesiwn galw heibio hefyd am 9am ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024 ar gyfer unrhyw un sydd â chwestiynau am y cynllun grant a’r broses ymgeisio. Os hoffech ymuno â’r sesiwn hon, cysylltwch â education@powys.gov.uk erbyn 5pm ar 14 Tachwedd 2024.
Os oes gennych unrhyw ymholidadau cysylltwch â sarah.quibell@powys.gov.uk
Canllawiau Grant Mentrau Ymgysylltu Lleol
Ffurflen Gais Mentrau Peilot Ymgysylltu Lleol