Celebrating 30 Years: Powys Living Well Service Press Release

Mae eleni’n nodi 30 mlynedd ers sefydlu Gwasanaeth Bywn Dda Powys, menter gofal iechyd a ddechreuodd yn 1994 mewn cydweithrediadag Ymddiriedolaeth GIG Guy a St Thomas, Llundain. Wedi i sefydlu i ddechrau fel y Ganolfan Rheoli Poen, sef chwaer-uned i Ysbyty St Thomas yn San Steffan, mae’r gwasanaeth wedi cael ei drawsnewid yn sylweddol yn ystod y tri degawd diwethaf gan gadw i fyny â gofal effeithiol i unigolion sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor.

Wedi i chreu’n wreiddiol fel gwasanaeth preswyl i ddefnyddwyr ledled Cymru a Lloegr, cafodd y ganolfan ei lleoli gyntaf ar Ward Glasbury, Bronllys, sydd bellach yn lleoliad i’r Prif Weithredwr a swyddfeydd
cyfarwyddwyr. Arweiniodd yr angen am le pwrpasol at ei adleoli i Dŷ Cloc, lle parhaodd i wasanaethu fel gwasanaeth preswyl. Dros amser, wrth i bob bwrdd iechyd ddatblygu ei wasanaeth rheoli poen ei hun,
trawsnewidiodd y Ganolfan Rheoli Poen i’r hyn a elwir bellach yn Wasanaeth Bywn Dda Powys.

Heddiw, mae Gwasanaeth Byw’n Dda Powys ar flaen y gad o ran trawsnewid digidol a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r rhan fwyaf o apwyntiadau bellach yn cael eu cynnal yn rhithwir, gan adlewyrchu ymrwymiad y gwasanaeth i hygyrchedd a thrawsnewid digidol mewn gofal iechyd. Cefnogwyd y newid hwn ymhellach gan gydweithio â gwasanaethau lleol, gan gynnwys Llyfrgelloedd Powys, sy’n darparu benthyciadau iPad i gefnogi pobl i fynychu ymgynghoriadau rhithwir.

Mae Gwasanaeth Byw’n Dda Powys wedi ehangu ei gwmpas y tu hwnt i reoli poen i ymgorffori ystod ehangach o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, gan gynnwys rheoli pwysau, blinder cronig
ac, yn fwy diweddar, Covid hir. Mae’r dull gweithredu cydweithredol hwn wedi ennill nifer o anrhydeddau i’r tîm, gan gynnwys Gwobr Rhagoriaeth Staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 2023 am Bartneriaethau a
Chydweithio, a Gwobr Cynaliadwyedd GIG Cymru ar gyfer Cymunedau Cydlynus.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Gwasanaeth Byw’n Dda Powys yn parhau i arloesi ac addasu. Mae Gwasanaeth Byw’n Dda Powys bellach yn cynnwys amrywiaeth o rolau, gan adeiladu cryfder trwy dîm clinigol
amlddisgyblaethol a staff cymorth busnes. Gyda i gilydd, maen nhw’n ymroddedig i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn hygyrch ac yn diwallu anghenion esblygol ei ddefnyddwyr am flynyddoedd i ddod. Ers ei sefydlu ym 1994, mae’r Ganolfan Rheoli Poen wedi addasu’n barhaus i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr gwasanaeth. Nawr, wrth i Wasanaeth Byw’n Dda Powys ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed, mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i arloesi digidol mewn gofal iechyd, gan feithrin cydweithrediadau sy’n gwella gofal defnyddwyr gwasanaeth, a darparu gofal cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.