
Chwilio am wybodaeth
Helpwch ni i wneud gwahaniaeth heddiw.
Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys PAVO yn cefnogi pobl dros 50 oed sy’n byw ym Mhowys, i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, magu hyder, datblygu eu rhwydweithiau cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.
Fel gwirfoddolwr fe allech chi…
- Helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i berson hŷn
- Gwella'ch hyder eich hun
- Dysgu sgiliau newydd
- Ymestyn eich rhwydwaith cymdeithasol
Darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus.
Gellir ad-dalu costau gwirfoddoli perthnasol.
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol i ddarganfod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd person unig, hŷn.
Cysylltwch â Ni
Ffoniwch 01597 822 191 am sgwrs anffurfiol neu e-bostiwch pbs@pavo.org.uk