
Gall gweithgarwch ym maes CC amrywio o ddarparu cludiant drws i ddrws hygyrch ar gyfer pobl gyda phroblemau symudedd, i helpu cynhwysiant cymdeithasol amrediad eang o bobl fyddai fel arall yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol bywyd dyddiol, addysg a hyfforddiant, a gwaith. Mewn ardaloedd gwledig, gall CC leihau effaith unigedd daearyddol trwy roi gwell mynediad i ganolfannau lleol a rhanbarthol.
Mae CC yn rhan hollbwysig o system cludiant integredig sy’n bwydo mewn i ac allan o’r prif goridorau a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus. Mae nifer o gynlluniau CC llwyddiannus o fewn Powys. Datblygodd y mwyafrif i fodloni anghenion grwpiau difreintiedig yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl.
Mae’r cynlluniau yma’n cynnwys:
- Cynlluniau Galw’r Gyrrwr
- Cynlluniau Cerdyn Tacsi
- Cynlluniau Ceir Cymunedol a Gwirfoddol
- Bysiau Cymunedol (Adran 22)
- Cynllun Hurio ar gyfer Grwpiau (PAVO)
Dylid cysylltu â’r cynlluniau unigol ar gyfer ffurflenni ymaelodi a gwybodaeth.