Mae Rhifedd 3 - Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys

Mae Rhifedd 3 - Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys yn gynllun grant y mae PAVO yn ei weinyddu. Mae’n rhan o’r £150,000 mewn ‘cyllid lluosog’ sydd hefyd yn ariannu
cynllun grant Rhifedd 2 â ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys.

CYM - Cronfa Rhifedd 3

Gall Sefydliadau Trydydd Sector a Chynghorau Tref a Chymuned Powys wneud cais i:
- gyflwyno sesiynau gwella rhifedd neu eu prosiectau rhifedd eu hunain.
- dderbyn hyd at £4,000.

Sesiynau:
● Gellir eu cyflwyno gan unrhyw un sy'n hyderus ac yn gymwys mewn mathemateg
sylfaenol.
● Yn gallu defnyddio taflenni cwestiynau gan PAVO a/neu eich deunyddiau’ch hun.
● Gall gynnwys gemau bwrdd neu sgorio.
● Rhaid gwella hyder a sgiliau rhifedd sylfaenol pobl 19 oed a throsodd (er y gall plant
fynychu hefyd).
● Rhaid ei gynnal erbyn 30ain o Dachwedd 2024.

Gallwch chi:
● Wneud cais nawr, tan 10fed o Hydref 2024.
● Gael gwybod os yw’ch cais yn llwyddiannus o fewn 3 wythnos o wneud cais.
● Gynnal mwy o sesiynau trwy wneud cais am y grant Rhifedd 2 hefyd.Rhifedd 2
● Gysylltu â Swyddog y Gronfa:

Ruth Stafford drwy’r ebost - ruth.stafford@pavo.org.uk
neu 01597 822191

Gallai eich sesiynau / prosiectau gynnwys:
● Defnyddio rhifau i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y mae eich grŵp yn ceisio ei gyflawni.
● Pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau yn teimlo'n fwy hyderus am symiau bob dydd.
● Gweithio allan, wrth siopa, pa eitem yw'r gwerth gorau.
● Dysgu adio / lluosi trwy gemau.
● Plant, os ydynt yn mynychu gydag oedolion sydd hefyd yn dysgu (mae'r gronfa hon ar
gyfer dysgu oedolion yn bennaf).