Cerbyd Trydan (Teithio Llesol) - cynllun grant trydydd sector

Mae’r gronfa Grant Cerbydau Trydan (Teithio Llesol) yn cynyddu gallu sefydliadau cymunedol lleol (gyda diben cymunedol ac elusennol) i ddarparu opsiynau trafnidiaeth carbon isel. Bydd y gweithgareddau hyn yn mynd i'r afael â blaenoriaethau thema “Cymunedau a Lle” y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ym Mhowys ac uchelgeisiau a thargedau Sero Net Llywodraeth Cymru.

CYM - grants

Mae'r grant Cerbydau Trydan (Teithio Llesol) yn cefnogi sefydliadau cymunedol i brynu cerbydau trydan (h.y. ecycle, ecars, eMPV's - cerbydau amlbwrpas ac eMinibuses) i:

-          ddatblygu, ehangu a chefnogi’r newid i uchelgais allyriadau sero net Llywodraeth Cymru a

-          datblygu, ehangu a darparu atebion trafnidiaeth cerbydau trydan sy'n cysylltu pobl sy'n byw mewn cymunedau lleol â lleoedd y maent yn teithio iddynt ar gyfer teithiau bob     dydd

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys i gael cyllid rhaid i'ch mudiad fod yn sefydliad trydydd sector gyda chyfansoddiad / set o reolau a chyfrif banc.  Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais mewn partneriaeth â sefydliad cymunedol.

Os nad ydych yn sefydliad cyfansoddiadol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am arian, ond cysylltwch â swyddog y Gronfa i drafod opsiynau. Efallai y gallwn eich helpu i ddod o hyd i sefydliad arall yn lleol y gallwch weithio gydag ef i gyflwyno cais.

Pwy na all wneud cais?

Cyrff statudol er enghraifft; llywodraeth leol, ysbytai, ysgolion.

Os yw’ch sefydliad yn strwythur gwahanol i'r rhai a restrir yma, cysylltwch â ni am drafodaeth bellach.

Yr hyn y gellir ei ariannu / cymhwyster

Cyfanswm gwerth y gronfa yw £400,000 . Gall grwpiau wneud cais am arian cyfalaf tuag at brynu cerbydau trydan - beiciau modur, ecars, empvs (cerbydau amlbwrpas) a gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan sy'n gysylltiedig â'r prosiect.

Mae'r gronfa wedi'i bwriadu'n bennaf ar gyfer prosiectau newydd, ond gall gefnogi datblygiad prosiectau presennol. Bydd angen i chi esbonio'n glir sut mae gweithgareddau'r prosiect yn ychwanegol at yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud.

Rhaid lleoli pob prosiect ym Mhowys. Lle mae gan brosiectau fuddiolwyr y tu allan i'r sir, dim ond cyfran fach o'r rhai y mae'r prosiect yn eu cyrraedd / yn ymgysylltu â nhw y gall y buddiolwyr hynny fod.

Ymrwymiad i ddarparu seilwaith gwefru digonol ar gyfer y cerbyd trydan a/neu gael mynediad at wefru trydan dibynadwy i ddiwallu anghenion eu teithiau. Bydd parcio oddi ar y stryd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect.

Ar gyfer dyfarniadau mwy bydd angen i chi ddangos aliniad sylweddol â meysydd blaenoriaeth y Gronfa.

Rhoddir blaenoriaeth pan fydd sefydliadau yn dangos:

●      diwallu angen y mae tystiolaeth ohono yn y gymuned leol a/neu yn cael eu harwain gan y gymuned

●      gweithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i gyflawni’r prosiect

●      gweithio ar y cyd neu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar lefel leol

●      buddsoddi mewn capasiti a seilwaith o amgylch trafnidiaeth gynaliadwy ar lefel leol ar gyfer y gymuned leol

●      ymgysylltu a chynnwys grwpiau â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft; pobl anabl

●      yn meddu ar ffyrdd sefydledig o weithio ar lefel leol ac atebion a fydd o fudd i gymunedau lleol

●      ystyriaeth glir o gynaliadwyedd amgylcheddol ac uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru

Rhaid i brosiectau arfaethedig gyfrannu at gyflawni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru 2022-25

 

Beth na ellir ei ariannu

Refeniw parhaus (er enghraifft: cynnal a chadw, meddalwedd, costau trydan, staffio)

Prosiectau cerbydau trydan sy'n dyblygu prosiect cerbydau trydan sefydledig yn yr ardal.

Prosiectau cerbydau trydan sy'n gyfyngedig o ran eu defnydd h.y. i unigolyn, busnes neu sefydliad penodol

Ariannu ôl-weithredol

Sut i wneud cais:

Rhaid i bob ymgeisydd gysylltu â Swyddog Datblygu'r gronfa i drafod eu prosiect. Mae hyn yn ein galluogi i drafod sut mae’ch prosiect yn cyd-fynd ag amcanion y cynllun grant a derbyn ffurflen gais, lle bo'n berthnasol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus weithio gyda swyddog datblygu'r Gymraeg PAVO ar gyfer darparu’r  'Cynnig Rhagweithiol', er mwyn iddynt allu integreiddio'r Gymraeg yn eu gweithgareddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12yp (canol dydd) 8fed Gorffennaf 2024

Cysylltwch â Tanya Kirby; Swyddog Datblygu i drafod eich cymhwyster ar gyfer prosiect ac yn ychwanegol at ble y gallwn ddarparu cyngor ac arweiniad i gefnogi datblygiad eich cais.

Rhaid i brosiectau gael eu cwblhau gyda chyllid wedi'i wario'n llawn a'i fonitro erbyn 30ain Tachwedd 2024.