Cefnogaeth Ariannol
Mae gan PAVO dîm profiadol o Swyddogion Datblygu sy’n darparu cymorth o amgylch ystod eang o bynciau’n ymwneud â chyllid i grwpiau a sefydliadau gwirfoddol
Mae ein gwasanaethau am ddim ac yn cynnwys:
- cymorth i ddatblygu strategaeth ariannu i reoli'ch anghenion ariannu
- cymorth ynghylch rheoli, monitro a gwerthuso cyllid
- cymorth ynghylch cwblhau ceisiadau am gyllid
- gwiriadau cais am gyllid cyn cyflwyno
- cymorth i amrywio ffynonellau incwm
- cymorth ynghylch comisiynu a thendro
- cymorth ynghylch creu incwm drwy roddion (unigol a chorfforaethol) gyda
- chymorth ar rhodd, cymynroddion ac apeliadau
- darparu hyfforddiant cost isel o ansawdd uchel ar bynciau'n ymwneud â chyllid megis digwyddiadau 'Cwrdd â’r Cyllidwr', lle gallwch ddysgu am gyllidwyr penodol a’u grantiau
- gwybodaeth ariannu drwy'r wefan ac E-Fwletin PAVO
“Mae PAVO wedi bod yn wych yn ein helpu i godi arian i adeiladu ein
pafiliwn newydd, dod o hyd i grantiau addas a'n helpu ni gyda'r
ceisiadau"
Clwb Bowlio Y Gelli a'r Cylch

Chwilio am wybodaeth