Cyllido Cymru yw’r llwyfan chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Mae'r wefan, a ddatblygwyd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn galluogi sefydliadau'r trydydd sector i chwilio cannoedd o gyfleoedd cyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei hangen arnynt yn gynt nag o’r blaen. Mae’r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau perthnasol o gyllid yn gyflym ac yn effeithiol. Mae’r wefan ar gael yn rhad ac am ddim. Mae ganddi broses gofrestru syml, ac mae modd i fudiadau chwilio am gyllid yn ôl diben, lleoliad a swm, ac mae meysydd pellach ar gael i fireinio canlyniadau chwilio. Mae modd i ddefnyddwyr hefyd gadw canlyniadau chwilio ac argraffu adroddiadau.
Yn ogystal â chwilio am gyfleoedd cyllido, mae’r wefan yn cynnwys eitemau newyddion ac astudiaethau achos, ynghyd â dolenni at gymorth, gwybodaeth ac arweiniad a fydd yn sicrhau bod gan fudiadau bopeth sydd eu hangen arnynt i wneud ceisiadau da am gyllid.
I ddechrau chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd cyllido ewch i funding.cymru.