
Grŵp B Diogelu Sesiwn Bersonol
Mawrth 17 @ 10:00 am - 4:00 pm

Trosolwg
Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phobl mewn lleoliad grŵp neu ar sail un-i-un.
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ymarferwyr sydd neu nad ydynt wedi’u cofrestru neu eu rheoleiddio, agwirfoddolwyr.
Bydd ganddynt gyfrifoldeb arbennig i’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.
Bydd angen lefel uwch o wybodaeth arnynt na phobl yng ngrŵp A oherwydd pa mor agos y maent yn gweithio gyda phobl.
Efallai y bydd gan y bobl y maent yn gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu beidio.
Os oes pryderon diogelu, bydd llinell hysbysu glir yn y sefydliad.
Byddant yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i hysbysu am bryderon, yn fewnol ac yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Egwyddorion cofiadwy
Rydw i’n rhan allweddol o’r broses ddiogelu.
Rydw i’n gwybod pryd, sut ac i bwy i hysbysu.
Byddaf yn sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.
Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp B wybod:
am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ynghylch diogelu
sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy’n ymwneud â diogelu.
Canlyniadau dysgu
Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp B.
Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddan nhw’n:
gwybod y ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy’n adlewyrchu eu rôl mewn perthynas â diogelu
gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddant yn dyst neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud eu bod yn cael eu cam-drin
gallu esbonio ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
gwybod sut, pryd ac i bwy i hysbysu am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 20 y sesiwn - 1 lle i bob sefydliad a gan fod lleoedd yn gyfyngedig. Bydd tâl am ddiffyg presenoldeb.