- This event has passed.
Bod yn Ymddiriedolwr
Gorffennaf 18 @ 10:00 am - 12:30 pm
Mae bod yn ymddiriedolwr yn rôl gyfrifol wirfoddol, ac sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau ynghlwm wrtho. Ar y cwrs, cewch eich tywys trwy’r cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n berthnasol i ymddiriedolwyr yn ogystal â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau chi tuag at eich sefydliad.
Deall oblygiadau bod yn ymddiriedolwr, pwy sy’n cael bod yn ymddiriedolwr, a rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr
• gwerthfawrogi’r hyn mae ymddiriedolwyr yn gallu bod yn atebol ar ei gyfer a gwybod sut i gyfyngu’r risgiau potensial
• deall egwyddorion dulliau llywodraethu da, rolau swyddogion penodol a’r gwahaniaeth rhwng bwrdd ymddiriedolwyr a’i is-bwyllgorau
* cadw trosolwg ar yr hyn sydd ei angen i recriwtio ymddiriedolwyr mewn ffordd effeithiol a rôl anwytho
Ymddiriedolwyr newydd, ymddiriedolwyr profiadol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr.