Enwebiadau Ymddiriedolwyr PAVO
YMUNWCH!

Ydych chi am wneud gwahaniaeth positif hefo bobl Powys?

Oes gennych chi’r sgiliau a’r profiad i helpu llywodraethu Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys?

Mae PAVO yn gwahodd enwebiadau gan unigolion sy’n dymuno sefyll i gael eu hethol i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2024. Mae’r dogfennau priodol ar gael isod.  Os ydych chi angen copiau wedi eu postio atoch, cysylltwch â ni.

YM DDIRIEDOLWYR BRIFF CAIS

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw’r  14 Hydref 2024

Rhannwch y wybodaeth hon gydag unrhyw un sydd  â diddordeb a bod yn ymddiriedolwr i PAVO.  Chwiliwn am enwebeion sydd â sgiliau, gwybodaeth a/neu arbenigedd a fydd yn cryfhau llywodraethiad y sefydliad ymhellach.

Rhaid i enwebiadau gael eu cymeradwyo gan aelod-sefydliad PAVO, ond nid oes angen i enwebeion fod yn aelod / cyfranogwr / buddiolwr y sefydliad hwnnw.

Nid yw ymddiriedolwyr yn cael eu talu, ond ad-delir yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’r rôl.

Am fwy o wybodaeth am PAVO ymwelwch â’n gwefan
https://www.pavo.org.uk/cy/cefndir-pavo.html 

neu cysylltwch ag Angela Owen, PAVO, Plas Dolerw, Y Drenewydd, SY16 2EH      01686 626220
angela.owen@pavo.org.uk.