Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol PAVO 2024

Cym AGM 2024 Logo

GWERTH Y TRYDYDD SECTOR POWYS

Grymuso'r Gymuned:  Rhyddhau Gwerth Trydydd Sector Powys

7 Tachwedd 2024  9.30yb – 4.00yp

Canolfan Gynadledda Cefn Lea,   Y Drenewydd SY16 4AJ

Mae’n bleser mawr i’ch gwahodd i Gynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol PAVO, a gynhelir eleni ar ddydd Iau y 7fed o Dachwedd 2024.  Gweler y rhaglen atodedig drwy’r DDOLEN HON.

Rydym yn ffodus i gael prif siaradwr MS Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ystod y bore ac yna trafodaeth banel ar “Gydnabod Gwerth Sector Gwirfoddol Powys’ gydag aelodau’r panel - Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Thwf, Cyngor Sir Powys a Rob Jackson, Hwylusydd “Dyfodol Gwirfoddoli”.

Bydd y prynhawn yn cynnwys Sesiynau Gweithdy ar bynciau megis:

'Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (Dangos gwerth mewn £edd)

  1. Ail-ddyfeisio eich ymgysylltiad gwirfoddol
  2. Gwerthfawrogi ein Straeon - rôl naratif wrth ddangos effaith
  3. Dim byd Amdanom Ni Hebddon Ni - Y realiti o weithio gyda dinasyddion wrth ddylunio a darparu gwasanaethau
  4. Gwerthfawrogi’ch Gweithlu a'ch Gwirfoddolwyr - cyflwyniad i Arweinyddiaeth Tosturiol

Bydd hefyd Marchnad y Trydydd Sector yn rhoi'r cyfle i chi hyrwyddo’ch sefydliad ac i gysylltu â chydweithwyr ar draws y sector a gyda phartneriaid Powys.  Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar.

Mae croeso cynnes yn aros i holl wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr a gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Bydd coffi ar gael o 9.30yb cyn dechrau ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 10.00yb. 

Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd Flynyddol PAVO yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr eraill yn y sector, yn ogystal â phartneriaid mewn sectorau eraill i rannu gwybodaeth ac arfer dda.

I roi gwybod i ni os ydych yn gallu mynychu, dewis sesiwn gweithdy ac unrhyw ofynion cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein, ffôn: 01597 822191 neu e-bost: ruth.middleton@pavo.org.uk.

Edrychaf ymlaen at eich gweld ar 7fed o Tachwedd.

Yr eiddoch yn gywir

Jamie Burt

Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

ENWEBIADAU YM DDIRIEDOLWYR PAVO

Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022

Adroddiad Ymddiriedolwyr PAVO a Datganiad Ariannol 2022-2023