Ydych chi’n chwilio am swydd lle fyddwch yn gwneud gwahaniaeth bob dydd? Mae gennym ddwy* swydd wag gyffrous – dewch i ymuno â ni ym PAVO!

Swyddog Gwybodaeth Iechyd Meddwl (21 awr yr wythnos) £19,269 (£32,115 pro rata) y flwyddyn a
Swyddog Gwybodaeth Iechyd a Lles (21 awr yr wythnos) £19,269 (£32,115 pro rata) y flwyddyn

Mae’r ddwy rôl yn rhai cyfnod penodol hyd at 31ain o Fawrth 2026 (Disgwylir eu hymestyn yn amodol ar gyllid).
Gall naill ai fod wedi’i leoli yn Swyddfeydd PAVO yn Llandrindod neu’r Drenewydd

Rydym yn chwilio am ddau swyddog gwybodaeth* gyda sgiliau cyfathrebu da ac angerdd dros iechyd a lles neu iechyd meddwl i ymuno â’n tîm.

Pwrpas y gwasanaethau hyn yw darparu gwybodaeth iechyd a lles / iechyd meddwl o safon i Gymunedau a Thrydydd Sector Powys. Bydd hyn yn cynnwys casglu a lledaenu gwybodaeth berthnasol ac hyrwyddo gwasanaethau’r trydydd sector trwy amrywiaeth o ddulliau a allai gynnwys diweddaru’r wefan, cynhyrchu bwletinau rheolaidd a rheoli ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â dulliau traddodiadol.

Disgrifiad Swydd Swyddog Gwybodaeth Iechyd Meddwl
Disgrifiad Swydd Swyddog Gwybodaeth Iechyd a Lles
Ffurflen Gais

Peidiwch â chael eich rhwystro rhag gwneud cais os nad oes gennych yr holl sgiliau a phrofiad a nodir yn y disgrifiad swydd, rydym yn cynnig cyfnod sefydlu trylwyr ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Mae gan PAVO bolisi o weithio hyblyg a rhannu swydd – rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl sydd eisiau gwneud llai o oriau neu batrwm gwaith gwahanol i’r hyn a hysbysebwyd. Byddem yn ystyried ceisiadau gan bobl y byddai’n well ganddynt gyfle am secondiad pe bai eu cyflogwr presennol yn fodlon.*
Byddem hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio’n llawn amser gan gyfuno’r rolau i swydd 35 awr yr wythnos.

PAVO Gwybodaeth gefndirol
Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant PAVO
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd PAVO
Ffurflen Monitro Amrywiaeth

Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Llun 28ain o Ebrill 2025
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 5ed o Fai 2025
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau, ynghyd â’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth i recruitment@pavo.org.uk erbyn y dyddiad cau