Llais Datganiad safbwynt Llais gweithredu ar fyrder ar gwasanaethau gofal brys yng

Rydym ni’n credu mewn Cymru iachach lle mae pobl yn cael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw. Rydym yma i ddeall eich barn a’ch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch adborth i lunio’ch gwasanaethau. Rydym yn chwilio am straeon da a drwg fel ein bod yn deall beth sy’n gweithio’n dda a sut y gallai fod angen i wasanaethau wella. Ac rydym yn ceisio siarad yn arbennig â’r rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml. Rydym hefyd yn siarad â phobl am eu barn a’u profiadau trwy gynnal digwyddiadau yn eich cymunedau lleol neu ymweld â chi ble bynnag yr ydych yn derbyn eich gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a grwpiau â diddordeb ac yn unol â mentrau cenedlaethol i gasglu barn pobl. A phan aiff pethau o chwith rydym yn eich cefnogi i wneud cwynion. Mae 7 Rhanbarth Llais yng Nghymru. Mae pob un yn cynrychioli llais “claf a chyhoeddus” mewn gwahanol rannau o Gymru.

Am fwy o wybodaeth cliciwch YMA

Ac YMA