Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru yn agor yn fuan

Bydd Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Llun 3 Chwefror, a’r dyddiad cau yw 2 Mai 2025. Bydd y gronfa hon yn galluogi nifer fach (tua 5) o fuddsoddiadau strategol i adeiladu ar y dulliau/mentrau newydd neu well o wirfoddoli ledled Cymru ac i ddysgu oddi wrthyn nhw. Bydd yn galluogi’r cynnydd a wnaed hyd yma i gael ei archwilio ymhellach a’i ‘ymwreiddio’ i mewn i waith parhaus. Croesawir ceisiadau grant am brosiectau hyd at 18 mis sy’n werth rhwng £50,000 a £100,000. I gael ychwaneg o wybodaeth gwelwch y canllawiau cynllun sydd wedi eu hatodi neu ewch i wefan CGGC.

 

FFEIL PDF LLAWN