Newyddion
Cefnogi
Adnoddau
Digwyddiadau
Sesiynau sgiliau digidol am ddim
|
Sgroliwch i lawr i ddarllen rhifyn y mis hwn.
|
Y cysylltiad rhwng anweithgarwch economaidd ac allgau digidol
Mae’r bennod hon yn ymchwilio i atebion ymarferol ar gyfer mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd ac yn archwilio strategaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer goresgyn rhwystrau a meithrin cynhwysiant digidol. Yn y bennod hon o Ddyfodol Digidol er lles, bu Prif Swyddog Gweithredol Grŵp y Good Things, Helen Milner yn cyfweld â’r Gwir Anrhydeddus Alan Milburn yn trafod canfyddiadau Adroddiad y Comisiwn Llwybrau at Waith ar gynhwysiant cymdeithasol, ail-ymgysylltu economaidd, a hygyrchedd digidol.
—
Mae Llywodraeth y DU yn addo mwy o gynhwysiant digidol wrth i Gymru wledig gael hwb mast ffôn
Mae saith mast sydd wedi’u huwchraddio wedi mynd yn fyw led-led Cymru wledig i helpu gwella signal 4G ar gyfer cartrefi a busnesau. Dywedodd yr Ysgrifennydd Technoleg ei fod yn “ymrwymedig i hybu sgiliau digidol ble bynnag mae pobl yn byw” yn dilyn dadorchuddio gwaith uwchraddio mastiau ffonau symudol newydd yng nghefn gwlad Cymru a ariannwyd gan y llywodraeth.
—
Mwy o siopau O2 yn ymuno â Banc Data Cenedlaethol i ddarparu data symudol am ddim i’r rhai mewn angen
Mae mwy na 300 o siopau O2 bellach yn rhan o’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol fel Hybiau Banc Data Cenedlaethol yn helpu pobl i fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Daw hyn yn dilyn ymchwil newydd yn cyhoeddi bod bron i chwarter pobl led-led Prydain ar incwm isel (y rhai sydd ag incwm cartref o lai na £15,000) yn cael trafferth fforddio eu bil ffôn symudol.
—
System ddigidol ar gyfer rheoli data canser yng Nghymru yn cymryd cam pwysig ymlaen
Mae system ddigidol ar gyfer rheoli data canser yng Nghymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen ar ôl i ffurflenni electronig newydd gael eu rhoi ar waith. Mae cyflwyno’r eFfurflen yn garreg filltir bwysig i GIG Cymru, sydd wedi bod yn gweithio i ddisodli’r hen System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC) er mwyn sicrhau bod cleifion canser a thimau clinigol ledled Cymru yn cael cofnod clinigol canser modern ac addas i’r diben.
—
Atgyfeiriadau ac asesiadau niwroamrywiaeth – archwilio atebion digidol sy’n diwallu anghenion defnyddwyr
Yn y cofnod blog hwn, mae’r Canolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus yn trafod sut y maent yn archwilio cynhyrchion digidol i’w helpu i wneud atgyfeiriadau ac asesiadau niwroamrywiaeth Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac effeithlon.
—
|
Hyder Digidol Powys
Nid yw 10% o bobologaeth Powys ar-lein, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 7%. Bydd yr ymyriad hwn a alluogwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin o fudd i unigolion ym Mhowys sy’n canfod eu hunain wedi’u hallgáu’n ddigidol neu’n brin o hyder digidol ac sydd eisiau gwybod mwy am y byd digidol. Am fwy o wybodaeth ac i weld ein rhaglen o ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan a mae croeso i chi gysylltu â dcpowys@cwmpas.coop neu ffoniwch 0300 111 5050
—
Hyder Digidol Sir Ddinbych
Ym mis Ebrill, rhoddwyd cyllid Lluosi ychwanegol i Hyder Digidol Sir Ddinbych i ddarparu hyfforddiant ar sut i reoli arian a chyllideb yn effeithiol ar-lein. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.
Mae’r prosiect hefyd wedi esblygu i ddosbarthu dyfeisiau digidol i’r rhai sydd mewn perygl o allgáu digidol. Mae’r dyfeisiau’n cynnwys gliniaduron, tabledi, ffonau symudol, neu hyd yn oed seinyddion clyfar a chlustffonau. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un yn Sir Ddinbych sy’n cael ei adael ar ôl oherwydd diffyg mynediad i dechnoleg, ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth a’r ffurflen gais atgyfeirio.
—
Family Fund – grantiau technoleg a gweithdai digidol
Mae Family Fund yn cynnig cymorth sgiliau digidol i helpu teuluoedd sy’n magu plentyn anabl, neu ddifrifol wael, i wneud y gorau o grant technoleg Cronfa Deuluol a dysgu sgiliau ar-lein newydd. Darganfyddwch fwy ar wefan Family Fund.
—
|
Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol
Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio’r camau y gallai unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol eu cymryd er mwyn gwerthuso effaith prosiect cynhwysiant digidol, neu ddarnau o weithgaredd cynhwysiant digidol. Mae’n edrych ar beth yw gwerthuso a pham mae o gymorth i gynhwysiant digidol, beth yw egwyddorion gwerthuso da, ac yn archwilio’r blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i werthuso gwaith cynhwysiant digidol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhannu rhai enghreifftiau o adnoddau ac studiaethau achos, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer dadansoddi eich data.
—
Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol
Mae Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol y Good Things Foundation yn cynnwys miloedd o sefydliadau ar lawr gwlad sydd i gyd yn gweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, mae’r Good Things Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru.
Os ydych chi’n sefydliad cymunedol sydd neu sydd eisiau cefnogi aelodau’ch cymuned i fynd ar-lein a chael mynediad at fuddion digidol – yna bydd ymuno â’r rhwydwaith yn eich helpu i wneud hynny’n union. Mae ymuno am ddim ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel:
• Mynediad i’r Banc Data Cenedlaethol a’r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol
• Hyfforddiant ac adnoddau am ddim
• Cyfleoedd rhwydweithio
• Mynediad i’r llwyfan dysgu ar-lein, Learn My Way. Mae’r platfform Cymraeg i’w weld yma.
Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad sy’n darparu neu sydd eisiau darparu cymorth cynhwysiant digidol. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma neu cysylltwch â hello@goodthingsfoundation.org am ragor o wybodaeth.
—
Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein
Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
—
|
Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru?
Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod.
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych chi eisiau gwylio recordiadau cyfarfodydd Rhwydwaith CCDC blaenorol, gallwch ddod o hyd iddynt yma. Mae’r cyfarfodydd yn agored i holl aelodau’r CCDC. Os hoffech ymuno, e-bostiwch diaw@cwmpas.coop neu ewch i’n gwefan.
—
|
Sesiynau sgiliau digidol rhad ac am ddim mis Ionawr
|
Os ydych yn gweld gweminar yn Saesneg yr hoffech chi ei gweld yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg neu i’r gwrthwyneb, rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i deilwra hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion.
Os rydych angen hyfforddiant yn eich sefydliad a’ch bod yn ansicr os allwn ddarparu’r hyfforddiant hwnnw, yna cysylltwch â ni, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop.
Diolch!
|
Dydd Mawrth 14 Ionawr | 2yp
AP GIG Cymru: Helpu eraill i fod ar-lein
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru.
Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
• Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein
• Sgiliau a Nodweddion yr ap
• Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol
• Bod yn ddiogel ar-lein
|
Dydd Mercher 15 Ionawr | 10yb
Hyrwyddwyr Digidol: Cyflwyno a helpu pobl i fynd ar-lein
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Bydd y sesiwn yn rhoi ysbrydoliaeth i’ch grŵp a chyflwyniad o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Hyrwyddwr Digidol.
Beth fyddwch chi’n ei gael o’r sesiwn:
• Beth yw hyrwyddwr digidol?
• Beth i’w ddisgwyl gennym ni.
• Enghreifftiau o weithgareddau ysbrydoledig.
• Sut beth yw llwyddiant i chi fel hyrwyddwr digidol?
• Ystyried ymarferoldeb sut i gefnogi pobl i fynd ar-lein
• Trosolwg o hygyrchedd digidol
|
Dydd Mercher 22 Ionawr | 10:30yb
Sut y mae Offer Digidol yn gallu Cefnogi Pobl gyda’u Costau Byw
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Beth fyddwch chi’n ei gael o’r sesiwn:
• Rhoi cyngor ar dlodi data a pha gymorth sydd ar gael i gael gafael ar ddata a dyfeisiau
• Edrych pa wybodaeth a chymorth ariannol sydd ar-lein
• Trafod y dulliau arbed arian sydd i’w cael ar y rhyngrwyd, yn cynnwys gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, ac adnoddau cymunedol
|
Dydd Mercher 29 Ionawr | 10yb
Cynhwysiant digidol ac ariannol a manteision rheoli arian ar-lein
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Ers mis Ebrill 2024, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gweithio’n thematig i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol i bobl Cymru. Mae’r sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Cymunedau Digidol Cymru, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Arweinwyr Arian Cymru. Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â helpu pobl i reoli eu harian ar-lein a bydd yn rhoi trosolwg o offer Arweinwyr Arian yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi pobl i fynd ar-lein a chael mynediad atynt.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn archwilio:
• Dealltwriaeth o’r sgiliau digidol sy’n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth ariannol ar-lein.
• Trosolwg o’r gwasanaethau MaPS sydd ar gael i bobl hŷn.
• Opsiynau ar gyfer cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol.
• Tlodi data, beth ydyw a pha opsiynau cymorth sydd ar gael i helpu pobl i fynd ar-lein
|
|
|