Bwletin CHTh
Ariannu’r heddlu: Beth yw eich barn?
Y mis hwn lansiais ymgynghoriad cyhoeddus i’m helpu i osod lefel praesept yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sydd yn gyfrifol am osod praesept yr heddlu, sef y swm y mae trethdalwyr lleol yn ei gyfrannu at blismona.
Mae penderfynu ar lefel y praesept bob amser yn broses heriol ond eleni gwelir heriau digynsail o ystyried y dirwedd ariannol ddifrifol.
Roedd y praesept uwch ar gyfer 2024/25 yn ein galluogi i:
Er bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithio’n galed i wella effeithlonrwydd a chyflawni arbedion, mae angen cyllid pellach i gynnal lefel y gwasanaeth y mae ein cymunedau yn ei ddisgwyl.
Er gwaethaf cynllunio ariannol gofalus, rydyn ni’n wynebu penderfyniadau anodd. Fy mlaenoriaeth o hyd yw sicrhau ein bod ni’n cynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.
Mae hon yn broses heriol, ond mae’n hollbwysig clywed eich barn. Fe’ch anogaf yn gryf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannueich barn.
Bydd yr arolwg yn parhau ar agor tan 6 Ionawr 2025, a gellir ei gyrchu
Dafydd Llywelyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae fformatau eraill o’r arolwg ar gael ar gais gan fy swyddfa drwy e-bostio OPCC@dyfed-powys.police.uk neu ffonio 01267 226440.
|
|