GRANT Adfer Mawndir Newydd
-
Lansiwyd y grant cystadleuol hwn gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar 18/12/2024 a bydd yn agored tan 18/3/2025.
- Mae’r Grant Adfer Mawndir newydd wedi agor ar 18/12/2024 ac yn cau am ganol nos 18/3/2025.
- Mae cronfa gwerth oddeutu £700,000 ar gael i ddosbarthu grantiau £10K-£250K i unigolion a sefydliadau adfer mawndir.
- Mae’r Grant Adfer Mawndir yn newydd gan ei fod yn cyfuno pwrpas y grantiau Datblygu a Chyflawni blaenorol. Bu’r ddwy ffurf o grant yn llwyddiannus ond mae’r grant newydd yn cynnig hyblygrwydd i’r partneriaid sydd am symud yn syth o’r cyfnod datblygu cynlluniau i gyflawni’r adfer ar y tir.
- Mae modd felly gwneud cais i gynllunio’r adfer, i weithredu’r adfer, neu gyfuniad o’r ddau.
- Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 31/3/26.
- Ceir yr holl fanylion a mynediad i’r broses ymgeisio drwy dudalen we Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
- I esbonio’r broses ymgeisio, cynhelir gweminarau ar Teams ar 6/2/2025. (9:30-10:30yb Saesneg a 11:00yb-12:00yp Cymraeg) gyda chofrestru yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Uwchlwythir recordiad o’r gweminarau er mwyn cyfeirio nôl atynt.
- Ariennir y grantiau gan CNC / y RhWGF sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.
- Mae gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC rôl strategol yn ehangu adfer mawndir Cymru gyda phartneriaid.
- Y Cyhoeddiad Grant Adfer Mawndir.
Diolch am eich cefnogaeth i rannu’r wybodaeth.
Dylid cyfeirio pob ymholiad am y grant a’r broses ymgeisio at grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â mawndir yn benodol, dylid danfon at NPAP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.