Niwrowahaniaeth Cymru Sesiwn Cyngor i Rhithiol Rhieni a Gofalwyr (Rhagfyr)

PDA – Canllaw i Rieni a Gofalwyr
Catrina Lowri, Neuroteachers
Lucy Johnson, The Autsons
Dydd Iau, 12 Rhagfyr 2024, 10:00am – 12:30pm
 
Y sesiwn
Cyflwynir y sesiwn hon o safbwynt addysgu a rhianta, i adlewyrchu pwysigrwydd cydlynu cefnogaeth rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’r testunau a drafodir yn ystod y sesiwn yn cynnwys:
  • Diffinio PDA / PDA fel niwrowahaniaeth
  • Problemau yn y cartref a’r ysgol
  • Strategaethau cefnogi yn y cartref a’r ysgol
  • Strategaethau gwahaniaethu ar gyfer PDA
  • Cynllunio ar gyfer eich ‘plentyn mewn golwg’
Y cyflwynwyr
Mae Catrina Lowri yn niwrowahanol, gyda diagnosis deuol o ddyslecsia ac anhwylder deubegynol a nodweddion ADHD, dyspracsia ac Anhwylder Prosesu Clywedol. Mae hi’n athrawes anghenion arbennig gymwys, yn Gydlynydd AAA ac yn athrawes ymgynghorol brofiadol.  Sefydlodd Catrina Neuroteachers i helpu lleoliadau addysg i weithio gyda’u dysgwyr niwrowahanol i ganfod datrysiadau syml ar gyfer arferion cynhwysol ar gyfer y dysgwyr hyn.  Mae tîm Neuroteachers yn gwneud hyn trwy hyfforddiant, mentora a newid diwylliant mewn meithrinfeydd, ysgolion a cholegau.
Lucy Johnson – “Rwyf yn rhiant sy’n gofalu am ddau blentyn awtistig, mae’n debygol fod gan y ddau ADHD, ac mae’r ieuengaf yn osgoi galw yn sylweddol – gyda PDA yn fy marn i. Rwyf yn cynnal grwpiau cefnogi wyneb yn wyneb i rieni sy’n ofalwyr yn fy ardal leol, sy’n delio gyda phlant sy’n osgoi mynd i’r ysgol, osgoi galw a’r heriau o’i amgylch, a hefyd yn rhoi cefnogaeth ar-lein drwy grwpiau amrywiol.”
I gadw’ch lle yn rhad ac am ddim, defnyddiwch y ddolen hon: