Eisiau buddsoddi yn eich gwirfoddolwyr?

I

Effaith a gwerthuso: Gweld yr ebost hwn yn eich porwr
Eisiau buddsoddi yn eich gwirfoddolwyr?

3 Rhagfyr 2024
Ar-Lein (Teams)
10:00am – 12:15pm
Gweminar am ddim

Dysgwch sut gall ennill y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr greu amgylcheddau galluogol ar gyfer gwirfoddoli deniadol a chynaliadwy.

Amcanion

Mae gwirfoddolwyr heddiw ac yfory yn gyfranwyr allweddol i wireddu gweledigaeth eich mudiad. Trwy fuddsoddi yn eich gweledigaeth am wirfoddoli a chreu rhaglenni a phrosesau gwirfoddoli o ansawdd uchel, gellir gwella’r gallu i recriwtio gwirfoddolwyr a chynnal cydberthnasau â gwirfoddolwyr dros yr hirdymor yn aruthrol.

Cynnwys

MBydd y sesiwn ddwy ran hon yn ymdrin â phopeth sydd angen i chi ei wybod er mwyn penderfynu a yw’r dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn iawn i’ch mudiad.

Yn rhan un, bydd mudiadau yn dysgu am egwyddorion Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, y gwerth y bydd mudiadau a ddyfernir yn ei gael drwy’r daith ac yn cael eglurder ar beth yw’r camau nesaf i ddechrau ar eu taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

Yn rhan dau, gwahoddir mudiadau sydd eisoes yn cynnwys gwirfoddolwyr rhwng 11 a 25 oed (neu’r rheini a hoffai wneud hynny) i ddysgu am sut mae dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth, yn enwedig i brofiad gwirfoddoli pobl ifanc.

Canlyniadau dysgu

Bydd rhan un yn rhedeg rhwng 10 ac 11am a thrwy ddod, byddwch yn:

  • Deall egwyddorion safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr y DU
  • Deall y gwerth y mae mudiadau sy’n ennill y wobr yn ei gael o fynd drwy daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
  • Gallu pennu a yw’r safon yn iawn i’ch mudiad ar hyn o bryd
  • Gwybod yn gwmws beth yw’r cam nesaf i’ch mudiad ar eich taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Bydd rhan un yn cael ei chyflwyno gan Sandra Adair, Rheolwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr y DU

Bydd rhan dau yn rhedeg rhwng 11.15am a 12.15pm a thrwy ddod, byddwch yn:

  • Deall yr egwyddorion o beth mae da yn ei olygu ym mhrofiad gwirfoddolwyr ieuenctid
  • Deall sut gall Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr alluogi mudiadau i wella a dangos gwerth eu taith wirfoddoli i bobl ifanc
  • Dysgu am adnoddau amrywiol a all gefnogi mudiadau a hoffai gynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr

Bydd rhan dau yn cael ei chyflwyno gan Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC a chefnogwr brwd dros wirfoddolwyr ifanc.

Cael gwybod mwy a chadw lle
Hefyd ar y gweill yn fuan…Cyflwyniad i ddiogelu data ar gyfer y sector gwirfoddol
16 Mawrth 2023 | 10 am – 1 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Hwb Gwybodaeth
Os ydych chi’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn rhoi mynediad hawdd i chi at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein.

Cofrestrwch am ddim

Cymryd Rhan

I weld manylion llawn y cwrs, gan gynnwys prisiau a faint o leoedd sydd ar gael, cliciwch ar ddyddiad y cwrs neu cysylltwch â’n Lein Gymorth 0300 111 0124 neu training@wcva.cymru.

Rhannu hwn Rhannu hwn
Tweet Tweet
Ymlaen Ymlaen
CANSLO EICH TANYSGRIFIAD NEU DDIWEDDARU EICH DEWISIADAU

Rydych wedi derbyn yr e-bost hwn oherwydd rydych wedi cofrestru i dderbyn negeseuon o dîm hyfforddiant CGGC. Eisiau newid sut rydych chi’n derbyn y negeseuon e-bost hyn?

Diweddaru eich dewisiadau
neu
Canslo eich tanysgrifiad i bob rhestr e-bost gan CGGC 

Amddiffyn eich preifatrwydd

Mae CGGC yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac rydym yn prosesu ein data yn unol â Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ewch ar ein gwefan i wybod sut rydym yn ymdrin â diogelu data. Yma gallwch hefyd weld ein Hysbysiad Preifatrwydd i gael gwybod sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio, pwy all gael mynediad ato, y seiliau cyfreithiol dros gadw eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth.

Mae’r e-bost hwn wedi ei yrru yn defnyddio Mailchimp. Gwelwch hysbysiad preifatrwydd Mailchimp i wybod sut maen nhw’n defnyddio eich data.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | Un Rhodfa’r Gamlas | Heol Dumballs | Caerdydd | CF10 5BF | Elusen Gofrestredig 218093 | Cwmni Cyfyngedig drwy warant 425299 | Wedi Cofrestru yng Nghymru

wcva.cymru | 0300 111 0124 | help@wcva.cymru